google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Diffynnydd achos herwgipio Môn wedi lladd ei hun – cwest

Fe wnaeth dyn 65 oed oedd wedi ei gyhuddo o fod yn rhan o gynllwyn i herwgipio plentyn, ladd ei hun, mae rheithgor cwest wedi penderfynu.

Cafodd Robert Frith, 65, ei ganfod yn farw yn ei gell yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam ym mis Tachwedd 2020.

Roedd hynny bum niwrnod ar ôl cael ei gadw yn y ddalfa fel rhan o ymchwiliad troseddol yn ymwneud â chynllwyn honedig i herwgipio plentyn ar Ynys Môn.

Roedd disgwyl i’r tad i ddau o Gaergybi ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 7 Rhagfyr 2020.

Mewn gwrandawiad yn Rhuthun, dywedodd swyddogion carchar nad oedd Frith wedi ceisio hunan niweidio ac felly yn cael ei weld fel “risg arferol”.

Roedd pobl yn cadw golwg arno yn ystod ei gyfnod yn ei gell unigol, ond roedden nhw’n gwirio fod y carcharorion yn bresennol, yn hytrach na gwirio eu lles.

Cafodd Frith ei ddisgrifio fel unigolyn “galluog, caredig a gofalgar” gan ei frawd, gan ychwanegu fod Frith yn isel yn dilyn marwolaeth eu mam, a’r ffaith fod gan eu brawd ganser.


BBC News

Advertisements

See also  Cwmni cynllun peilonau i fynd â thirfeddianwyr i'r llys

Check Also

Man in court over explosives found near Aberfan Memorial Garden

A man has appeared in court after suspected explosives were found near the Aberfan Memorial …

FA Cup memories inspiring both Hayden Mullins and Newport County

Manager Hayden Mullins and Newport County are well acquainted with the drama of the FA …

Y ddwy ffrind â’r dyhead i ‘greu rhywbeth i gymuned Capel Bangor’

Gyda’r ddwy yn famau ifanc mae unigrwydd wedi bod yn sbardun iddynt hefyd, fel mae …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime