google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Diffyg cefnogaeth ar ôl colli babi wedi achosi trawma’

Mae gwaith ymchwil ar y cyd gan Fertility Network UK, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol y Frenhines Belfast yn dangos fod trawma sy’n gysylltiedig ag anffrwythlondeb yn fwy cyffredin na’r hyn oedd yn cael ei gydnabod yn flaenorol, ac mae’r elusen yn galw am well cymorth iechyd meddwl.

Mae ffigyrau’n dangos bod 41% o ymatebwyr o ar draws y DU, wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ar ôl profi anffrwythlondeb.

Dywedodd Dr Catherine Hill o’r elusen: “Mae’r ymchwil yma’n bwysig iawn, oherwydd mae’n cadarnhau’r hyn y mae pobl sy’n gweithio yn y sector ffrwythlondeb wedi’i amau ers tro, a hynny yw bod trawma sy’n gysylltiedig ag anffrwythlondeb yn gyffredin iawn.”

Yng Nghymru, dywedodd Dr Hill fod llawer o ymatebwyr wedi dweud mai dim ond un sesiwn o gwnsela gafodd ei gynnig iddyn nhw yn ystod eu taith ffrwythlondeb.

“Dyw un sesiwn o gwnsela ddim yn debygol o grafu’r wyneb hyd yn oed, ac mae llawer o glinigau’n cynnig mwy na hynny,” meddai.

“Ond o fewn Cymru rydyn ni’n clywed mai dim ond un sesiwn sy’n cael ei gynnig, a dyw hynny ddim yn ddigon i ddechrau mynd i’r afael â’r profiadau trawmatig hyn y mae cleifion yn mynd drwyddynt.”


Source link

See also  Bangor: Cyhoeddi enw dynes fu farw wedi gwrthdrawiad fan Tesco

Check Also

Wales' papers: Lies of 'Tinder trap' fraudster and residents 'targeted' by teens

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Pollution behind coracle fishing in Carmarthenshire river’s decline

Keith Elias’s family have been fishing on the river for 300 years – he said …

County Championship: Glamorgan dominate at rain-hit Leicester

Rothesay County Championship, Division One, Uptonsteel Grace Road, Leicester (day one) Leicestershire: 113-7 (Van der …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime