google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Defnyddio cyllid o’r system gynllunio i hybu’r Gymraeg yn Abergele

Dywedodd Meirion Llywelyn Davies, prif weithredwr Menter Iaith Conwy, fod yr iaith wedi dirywio fel iaith gymuned yn y dref a bod llai o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith.

“Mae yna batrwm pendant o ran datblygiadau tai a chanran y siaradwyr Cymraeg yn gostwng,” meddai.

“Mae hyn yn profi pwysigrwydd fod y Gymraeg yn cael ei hystyried law yn llaw a pholisi cynllunio.”

Pan gafodd cynllun datblygu lleol ei greu roedd y fenter yn dadlau fod yna ormod o dai yn cael eu codi o ran lles y Gymraeg, a bod hynny yn cael effaith negyddol.

Ond trwy gyfrwng Amod 106, dywed Mr Davies bod y fenter “wedi gallu cael arian, a dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghymru, i liniaru effaith y datblygiadau ar y Gymraeg”.

“Ry’ ni nawr wedi cael arian trwy’r cyngor tref i gyflogi swyddog penodol yn Abergele i neud yn siŵr fod y siaradwyr Cymraeg sydd yma yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.”


BBC News

Advertisements

See also  Man Utd 2-0 Man City: How Michael Carrick's side dismantled and frustrated Pep Guardiola's team

Check Also

World Rally Championship: The five titles that got away as Elfyn Evans closes in on elusive crown

A revamp of the points system for 2025 was welcomed by Evans; it also brought …

Cardiff police chase drug dealer posing as fast food delivery courier

This is the moment a drug dealer tried to evade police on foot while posing …

Sefyllfa tai cymdeithasol Pen Llŷn yn ‘annheg’ ar bobl ifanc lleol

“Mi oedd o’n swnio’n grêt ar y cychwyn”, meddai’r cynghorydd sir dros Ben draw Llŷn, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime