google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 15 2026

Dedfrydu swyddog carchar a gafodd berthynas ‘amhriodol’ â charcharor

Advertisements

Clywodd y llys bod darn o bapur gyda rhif ffôn a manylion Snapchat Breen wedi ei ganfod yng nghell y carcharor.

Fe wnaeth yr heddlu hefyd ganfod negeseuon rhwng y par oedd yn dangos “perthynas bersonol, ramantus”, gyda’r ddau’n dweud eu bod yn caru ei gilydd.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke bod Breen “yn gwybod bod yr hyn yr oeddech chi’n ei wneud yn anghywir” ac “wedi ffurfio perthynas arwyddocaol â charcharor”.

Dywedodd fod Breen wedi rhoi dau o’i chydweithwyr mewn “sefyllfa anodd iawn”.

Dywedodd fod yn rhaid iddi ystyried bod gan y diffynnydd blentyn, ei bod hi’n feichiog ac yn gofalu am blentyn arall a galwodd hyn yn “achos eithriadol”.

Derbyniodd Breen ddedfryd o 10 mis yn y carchar, wedi’i ohirio am 18 mis.

Cafodd orchymyn i wneud 50 diwrnod o waith di-dâl a thalu £500 mewn costau.


BBC News

See also  Louis Rees-Zammit: Bristol wing ready for Wales return - Cuthbert

Check Also

Wales lose injured Powell for entire WXV campaign

Wales have been dealt another injury blow ahead of their WXV Global Series with Kayleigh …

Craig Bellamy: Wales boss ‘committed’ to role after Burnley talks

Speaking as he named his 28-man squad for Nations League A games with Portugal, Denmark …

Pidcock and Backstedt lead GB at Road Worlds

Great Britain’s best cycling talents including Tom Pidcock and Zoe Backstedt will lead the charge …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime