google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Dedfrydu dyn ifanc o Sir Gâr oedd ar gyfres realiti Ma’i Off ‘Ma S4C

Advertisements

Mae dyn ifanc fu’n rhan o gyfres deledu ar S4C wedi ei ddedfrydu am ymosod ar ddynes yng Nghaerfyrddin.

Cafwyd Gilbert Roberts, 19, o Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin, yn euog o gyhuddiadau o ymosod mewn cysylltiad â dau ddigwyddiad yng Nghaerfyrddin yn Rhagfyr 2024 ac Ionawr eleni.

Cafwyd yn euog o ymosod ar Jaylee Green trwy guro mewn tractor, ac ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol mewn digwyddiad ar wahân.

Roedd Roberts yn rhan o’r gyfres realiti diweddar, Ma’i Off ‘Ma, gan gwmni cynhyrchu Carlam ar gyfer S4C.

Cyfres oedd yn dilyn tair cenhedlaeth o deulu fferm Penparc, Sir Gaerfyrddin “sy’n byw a bod y byd amaeth”.

Yn Llys Ynadon Llanelli cafodd Roberts ddedfryd 12 mis wedi ei ohirio am 24 mis. Doedd gwaith di-dâl ddim yn ofynnol.

Roedd Roberts wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn.


BBC News

See also  Trump's Gaza plan is a significant step

Check Also

First Minister Rhun ap Iorwerth wants swift Welsh Gender Service review

A review into surgery services at Wales’ only transgender clinic must be quick, First Minister …

Woman died of heatstroke climbing Yr Wyddfa, inquest hears

A 35-year-old woman died of heatstroke on Wales’ highest mountain, an inquest has heard. Sophie …

Arestio pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym Môn yn 1994

Mae tîm adolygu troseddau mawr Heddlu’r Gogledd wedi bod yn adolygu’r achos ers 2024. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime