google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dedfrydu dau ar ôl i fachgen, 15, gael ei saethu drwy flwch post

Clywodd y llys fod Karahan wedi disgyn wrth redeg i ffwrdd o’r tŷ ac wedi gollwng y gwn ar lawr cyn dianc mewn car oedd wedi ei ddwyn.

Dywedodd yr erlyniad fod y ddau ddiffynnydd wedi teithio o Fryste i Gaerdydd yn y car er mwyn cynnal ymosodiad oedd yn rhan o ffrae gydag aelod o deulu’r bachgen oedd yn ymwneud â chyffuriau.

Yn ôl yr amddiffyniad, roedd Karahan “wedi cael ei ecsbloetio gan gangiau troseddol ym Mryste” a nodwyd nad oedd yn “droseddwr peryglus na soffistigedig”.

Cafodd Corbin ei ddisgrifio hefyd fel rhywun “oedd wedi cael ei ecsbloetio gan gangiau cyffuriau ers iddo gael ei ddiarddel o’r ysgol yn 13 oed”.

Wrth gyflwyno’r ddedfryd i Karahan, dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke: “Fe wnes di saethu’r gwn, nid unwaith, ond ddwywaith, dyw hynny ddim yn rôl ymylol.”

Ychwanegodd fod Corbin yn berson “peryglus” sydd ag “agwedd sy’n annog troseddu”.

Dywedodd Leighton Mawer o Wasanaeth Erlyn y Goron fod “y ddau ddiffynnydd wedi cynllunio eu troseddau ymlaen llawn, gan gynnwys defnyddio arf tanio, a arweiniodd at anafu person yn ddifrifol”.

“Pan fo arfau tanio’n cael eu rhyddhau, mae’r canlyniadau yn aml yn angheuol, ond yn ffodus iawn, nid dyna oedd y canlyniad yn yr achos hwn,” meddai.


BBC News

Advertisements

See also  Staff elusen 'wedi'u bygwth' ar ôl i Elon Musk rannu fideo

Check Also

‘Sneb yn gwybod be’ sy’n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig’ yng nghefn gwlad

Yn ôl y Rhwydwaith Trosedd Cefn Gwlad, mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn …

Aberystwyth farmer writes off neighbour’s pick-up truck

A farmer used his tractor to lift and move a neighbour’s pick-up truck off the …

Aberystwyth farmer writes off neighbour’s pick-up truck

A farmer used his tractor to lift and move a neighbour’s pick-up truck off the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime