google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

De Caerdydd: Galw am addyg Gymraeg ar ‘stepen y drws’

Mae Alex Clatworthy yn rhan o’r ymgyrch dros bedwaredd ysgol i wasanaethu cymunedau Glanyrafon, Treganna, Grangetown, Trebiwt a’r Bae.

“Mae angen ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd sydd wedi ei gwreiddio yn ein cymuned ac sy’n cynrychioli amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog ein hardal,” meddai.

“Mae hawl gan blant de Caerdydd i gael addysg uwchradd Gymraeg ar stepen drws felly – ac mae cyfle gwirioneddol gynhyrfus gan y cyngor i wireddu hyn.”

Mae ymgyrchwyr yn dadlau fod Ysgol Glantaf yn bell o rai o’r cymunedau yma ac y bydd hi’n anodd i blant fanteisio ar weithgareddau allgyrsiol.

Mae Catrin Dafydd hefyd yn rhan o’r ymgyrch.

Dywedodd hi: “Fel un o ‘ddinasoedd cyfeillgar i blant’ UNICEF, rydym yn obeithiol fod cyngor y ddinas am sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a ieithyddol i blant mwyaf difreintiedig y brifddinas fel y gallant gerdded a theithio’n iach i ysgol uwchradd Gymraeg fydd wedi ei gosod yng nghalon y gymuned aml-ddiwylliannol hon.”


Source link

Advertisements

See also  Women's Six Nations: Sean Lynn needs 'good pre-season' with Wales

Check Also

Wales’ national poet says royal visit poem rejection is ‘concerning’

Issa said the feedback received was that the poem had an “edge” and could “perhaps …

Dragons seek home comforts in Challenge Cup against Perpignan

Dragons started the season with a draw at Benetton and a win against Scarlets, but …

Merch fach gafodd ei darganfod yn farw ger y Fenai wedi cael yr enw Ceri

Mae’r llinell ffôn arbennig gafodd ei sefydlu i fam Ceri gysylltu neu anfon neges destun …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime