google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dawnsio gyda Bruce Springsteen oedd ‘y profiad mwyaf anhygoel’

84b15a40 3d32 11f0 b1db 7b03bfaa8894.jpg

Advertisements

Mi fyddai dawnsio ar y llwyfan gyda Bruce Springsteen yn freuddwyd i’w filiynau o ffans ar draws y byd.

Ac i un ffan ifanc o Ddinas Powys daeth y freuddwyd yna’n wir yn 2016 pan estynnodd y canwr byd-enwog o America ei law iddo a’i dynnu i’r llwyfan mewn gig yn Coventry.

Bu Haydn Craven, sy’ erbyn hyn yn 18 oed, yn trafod y profiad bythgofiadwy hynny o ganu gyda’r Boss ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Meddai: “Oedd e jest y profiad mwyaf ffantastig. Fel rhywun naw mlwydd oed o flaen 40,000 o bobl gyda Bruce Springsteen – oedd e y profiad mwyaf anhygoel.

“Dwi jest yn cofio bod ar ysgwyddau Mam. A dwi’n cofio Bruce yn dod o gwmpas ac mae’n dod yn agosach a agosach. A dwi ddim yn gyffrous. Dwi’n fwy nerfus yn gweld e’n dod yn agos achos mae gyda hanes o ganu gyda pobl ar y llwyfan.

“Felly mae’n dod rownd a dwi ar ysgwyddau Mam. Ac mae’n estyn mas a dwi’n meddwl ei fod yn mynd i rufflo gwallt fi neu rhywbeth. Ac yna mae Mam yn lansio fi ar y llwyfan so s’dim lot o ddewis gyda Bruce!

“Ond wedyn jest edrych mas ac mae ‘na 40,000 o bobl. Mae’n anodd disgrifio.”


BBC News

See also  Arestio dau ddyn ar amheuaeth o lofruddio dyn yng Nghaerdydd

Check Also

Dyn 102 oed wedi marw ar ôl cael ei ‘wthio’ mewn tafarn – cwest

Dywedodd y crwner fod yr heddlu yn dal i ymchwilio i farwolaeth Philip Ormerod, bod …

Ashley Williams and Alan Sheehan join Wales coaching staff

Former Wales captain Ashley Williams and ex-Swansea boss Alan Sheehan have joined Craig Bellamy’s backroom …

Gwireddu breuddwyd tad wrth ail agor becws olaf Caernarfon

Meddai Radoslaw: “Mae ganddon ni gwsmeriaid sy’n dod yma ac yn dweud bod eu taid …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime