google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dau fachgen wedi’u cael yn euog o lofruddio tad o’r Barri

Advertisements

Mae dau fachgen, 16 a 17 oed, wedi eu cael yn euog o lofruddio dyn 38 oed o’r Barri mewn ymosodiad hiliol.

Bu farw Kamran Rasool Aman, a oedd yn dad i un plentyn, o un clwyf ar ôl cael ei drywanu yn ei frest yn fuan wedi hanner nos ar 1 Gorffennaf eleni.

Nid oes modd i’r bechgyn, sydd o Lanilltud Fawr ym Mro Morgannwg, gael eu henwi oherwydd eu hoedran.

Roedd y ddau wedi cyfaddef dynladdiad Mr Aman ond yn gwadu llofruddio.

Cymerodd rheithgor o bum menyw a saith dyn yn Llys y Goron Caerdydd lai na saith awr i gyhoeddi eu dyfarniad unfrydol.

Fe wnaeth y ddau ddiffynnydd ymateb yn flin yn y doc yn dilyn y dyfarniad, gydag un yn dyrnu’r waliau ac yn cyfeirio sylwadau at deulu Mr Aman yn yr oriel.

Bydd y ddau fachgen yn cael eu dedfrydu ar 20 Chwefror.


BBC News

Views: 0

See also  Clwb Rygbi Ystradgynlais ar gau ddydd Gŵyl San Steffan wedi lladrad

Check Also

Skipper Parfitt leads Glamorgan to victory against Worcestershire

Khurana survived an early scare when Katie Cobb spilled a chance off Gemma Porter, but …

Nations Championship: Wales Aaron Wainwright will return to scene of first cap in San Juan

Wainwright will be buoyed by winning at the Cardiff City Stadium after being involved with …

Death Valley star says ADHD diagnosis made her feel lucky to be actor

Keyworth, who was born in Aberystwyth, said ADHD (attention deficit hyperactivity disorder) was not spoken …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime