google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

Dau ddyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd

Gan ohebydd BBC Cymru, Matt Murray o’r lleoliad

Awyrgylch o sioc sydd yna ar Stad Alway ger safle’r ddamwain. Mae’n dawel ond mae pobl wedi dod o’u cartrefi ac maen nhw wrth ymyl cordon yr heddlu.

Mae pabell fforensig wedi ei gosod lle ddigwyddodd y gwrthdrawiad ac mae tua wyth o gerbydau heddlu a chordon yn cau Ffordd Aberddawan.

Wrth i mi gyrraedd, roedd yn aneglur beth oedd wedi digwydd. Roedd pobl leol yn gwybod bod dau berson wedi marw ac yn ofni bod achos arall o drywanu wedi digwydd.

Mae yna gofeb o hyd ar y cylchdro er cof am Ryan O’Connor a gafodd ei lofruddio yma yn 2021.

Dywedodd un preswylydd wrtha’i bod y gwrthdrawiad wedi digwydd tua 01:00 ond cafodd eraill eu deffro gan sŵn hofrennydd yr heddlu tua 02:00.

Bues i’n siarad gyda dau berson lleol a ddywedodd wrtha’i eu bod yn ‘nabod y bobl sydd wedi marw, a’u bod mewn sioc.

Mae’r marwolaethau, medden nhw, yn “destun pryder” ac yn “hollol dorcalonnus”.


BBC News

Advertisements

See also  Cwis: Hanes Mawr Cymru

Check Also

Angela Shellis Channel 4 documentary reveals insights into son who murdered mum

During Roberts’ sentencing, the court heard the first Dictaphone message said: “This is Tristan Roberts. …

Nid mater i’r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol – prif weinidog

Mater i bobl Cymru, ac nid i’r Kremlin, yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, meddai prif …

Welsh independence not for Kremlin to decide, says first minister

Wales’ constitutional future within the UK is for its people and not the Kremlin to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime