google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 29 2026

Daf James: Geiriau olaf Mam yn ‘rhodd’ wrth fabwysiadu plentyn

Ond mae ei agwedd wedi newid, yn rhannol oherwydd ei brofiad ar faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn y llynedd, pan gafodd ei enwi fel un o enillwyr gwobr Tir na n-Og am ei lyfr Jac a’r Angel.

Eglurodd: “Erbyn hyn mae’r Urdd yn ffantastig o ran hynny.

“Dwi wrth fy modd bod ‘na gymaint o lwyfannau gwahanol ac mae ‘na lwyfan lle mae pobl yn dod i gael eu gwobrwyo a Mari Lovgreen yn cyflwyno a’r plant i gyd yn cael dathlu achos bod hi’n ddathliad. Mae hwnna wedi newid.

“Ac mae’r ffaith bod Cwiar na Nog [cymuned LHDTC+ yr Urdd] i’w gael ar faes yr Urdd – oh my gosh! Taswn i yn blentyn wedi cael y pethe yma.

“Pan es i i’r Urdd llynedd nath gweld yr holl bethe yna symud fi i’r byw.

“Ni’r Cymry wedi dod wir yn bell ac am wn i achos bod ni yn ddiwylliant bach fi, ambell waith, yn teimlo fel bod ni’n gallu esblygu yn gynt a dwi’n teimlo ein bod ni fel diwylliant, ambell waith, nid tu ôl i’r gad ond o flaen y gad.”

Mewn datganiad, dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru, bod yr ŵyl yn “credu’n gryf mewn tyfu a datblygu, a gwrando ar leisiau ein pobl ifanc”.

“Dwi’n falch iawn o aelodau’r Urdd sy’n gweithio’n galed i greu datblygiadau newydd fel Cwiar na Nog ar faes yr Eisteddfod, a sicrhau fod yr Urdd i bawb.

“Diolch i Daf James am gydnabod eu gwaith arloesol, fel aelod blaenllaw o’r gymuned LHDTC+ a’r byd celfyddydol yng Nghymru.”


BBC News

Advertisements

See also  Ysgolion ar gau wrth i amodau rhewllyd barhau yng Nghymru

Check Also

Angela Shellis Channel 4 documentary reveals insights into son who murdered mum

During Roberts’ sentencing, the court heard the first Dictaphone message said: “This is Tristan Roberts. …

Nid mater i’r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol – prif weinidog

Mater i bobl Cymru, ac nid i’r Kremlin, yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, meddai prif …

Welsh independence not for Kremlin to decide, says first minister

Wales’ constitutional future within the UK is for its people and not the Kremlin to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime