google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyswllt gwe newydd Llanbrynmair yn ‘newid byd’

Gall nifer cynyddol o bobl bellach gael mynediad at wasanaeth cyflym, cyfanswm o 970,000 o eiddo ledled Cymru, er bod y ddarpariaeth yn amrywio o hyd.

60 milltir o bentref Llanbrynmair, mae cymuned Llanrhaeadr-ym-mochnant yn aros am welliannau.

Mae Meirion Edwards yn ffermio yno ac yn dweud nad oes “gobaith gwylio dim byd, mae’r olwyn fech yn troi a throi”.

“Mae’n cymryd lot o amser i wneud gwaith papur, dydyn ni methu cael mapiau i lwytho ac mae hynny yn broblem o ran gwneud y gwaith fferm.

“Mae eisiau tipyn o amynedd. Ni’n teithio i Lansanffraid i dŷ fy merch i neud lot o’r gwaith,” meddai.

Dywedodd Suzanne Rutherford, prif beiriannydd Openreach Cymru: “Nid oedd y cwmni wedi llwyddo i gyrraedd pob cartref a busnes gyda ffeibr cyflawn o fewn ardal cyfnewidfa o’r blaen, felly rwy’n falch ein bod wedi cyflawni’r her am y tro cyntaf yng Nghymru.

“Mae heriau fel topograffi anodd, mynediad at dir a chostau uchel yn effeithio ein gwaith o fewn ardaloedd cyfnewidfeydd ffôn ond rwy’n hynod o falch ein bod wedi llwyddo i’w goroesi wrth gydweithio mewn timau gyda’n peirianwyr, cymunedau a Llywodraeth y DU.”


Source link

Advertisements

See also  Yr Iseldiroedd: Pwy yw'r merched mewn oren?

Check Also

Team GB’s Dimitri Coutya claims gold hat-trick at Para-fencing Euros

Team GB’s Dimitri Coutya completed a stunning hat-trick of gold medals at the 2026 Para-fencing …

Wrexham dog owners fear contaminated land contributed death

A couple say their dog may have died after being exposed to an orange substance …

Jonathan Ross’ daughter Honey is learning Welsh by practising on dog

A Welsh content creator has shared how his girlfriend Honey Ross, daughter of TV presenter …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime