google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cystadleuydd Y Llais yn galw am fwy o ddealltwriaeth o anabledd anweladwy

Advertisements

Dywedodd Grace ei bod hi wedi cael ei herio unwaith gan aelod o’r cyhoedd am barcio mewn lle i bobl anabl.

“Mae fe wedi digwydd i fi. Roeddwn i yn y car efo fy ffrind… ac oherwydd dwi yn cael problemau gyda fy nghoesau roeddwn i yn gorfod mynd mewn i disabled space ac roedd gen i fathodyn ond wnes i ddim rhoi fe lawr yn yr eiliad honno ac mewn shot roedd rhywun yn dod i’r car ac edrych arna i a dweud ‘beth ti’n neud? Ti ddim yn gallu dod yma.’

“Roedd e’n gweld rhywun oedd yn edrych yn healthy ond ddim yn gwybod fy mod i yn cael problemau cerdded.”

Mae Grace wedi apelio ar bobl i ddangos “mwy o ddealltwriaeth” i bobl sydd ag MS – sylw sydd yn cael ei gefnogi gan Angharad.

“Mae fe’n anabledd anweladwy a mae hwnna mor greulon ar ben gorfod cael yr anabledd yn y lle cyntaf.

“Dwi yn deall byddai pobl yn camu bant o lefydd achos hynny. So ni yn gwybod beth mae pobl yn gorfod mynd trwyddo.

“Fi’n lwcus ar y funud ond sdim i ddweud na allai hynny newid yn yr wythnos, mis, blwyddyn, 10 mlynedd. Sdim un ohonom ni’n gwybod.”

Mae Cyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru, Shelley Elgin yn dweud bod byw gyda’r cyflwr yn gallu bod yn “flinedig ac yn anwadal” ac mae’n bwysig bod pobl yn cymryd yr amser i wrando, dysgu a deall mwy am yr afiechyd.


BBC News

Views: 0

See also  Medal Ddrama: 'Penbleth' llenorion dros dderbyn cais i feirniadu

Check Also

Welsh NHS likely to miss waiting lists target ahead of election

Meanwhile the latest figures show, at the start of this year, there were more than …

Lle oeddwn i: Caryl Parry Jones a Calon

Mi o’n i ar y trên o Lundain i Gaerdydd. Ar y pryd o’n in …

Women’s Six Nations: Bethan Lewis to captain Wales v England with Kate Williams and Carys Cox out

Bethan Lewis will lead Wales against England in the Women’s Six Nations on Saturday (14:15 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
🛠️ your secret growth arsenal. Chief information officer (cio) ucan.