google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynnydd mewn cerdded a seiclo yn ‘boenus o araf’

Un fenter sy’n llwyddo yw’r cyfleusterau newydd yng nghanol Casnewydd i bobl fedru storio beics bedair awr ar hugain y dydd.

“Fe wnaethom ddarganfod bod y risg o’ch beic chi’n cael ei ddwyn yn rhwystro nifer o bobl rhag seiclo mewn i ganol y ddinas,” esboniodd Mark Seymour o elusen The Gap Wales.

Mae’r elusen wedi ffurfio partneriaeth â Spokesafe, sefydliad sy’n cynnig gwasanaeth storio beics lle all pobl archebu lle drwy ap.

Maen nhw’n defnyddio siop oedd yn wag ac yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Newport City Homes.

Mae’r cyfleusterau wedi bod yn agored ers 18 mis bellach, ac mae arolwg diweddar yn awgrymu y byddai dros hanner y defnyddwyr heb deithio i ganol y ddinas hebddyn nhw, gyda thros dri chwarter bellach yn seiclo yn amlach.

“Mae pawb ar eu hennill o deithio’n llesol – mae’n golygu llai o gerbydau ar y ffyrdd, llai o draffig a llygredd ond mwy o le i barcio i bobl sy’ wirioneddol angen gyrru car,” meddai Mr Seymour.

Dywedodd Ben, myfyriwr 20 oed ei fod yn gwerthfawrogi’r ganolfan newydd fel “lle saff i gadw beic, yn enwedig yn ystod y nos – fe arall y’ch chi’n mynd i’w golli fe”.

“Mae gen i bus pass am ddim ond fydde’n well gen i seiclo i mewn i’r dre’,” ychwanegodd Jim Corry, 67 oed.

“Mae’r cyfleusterau yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr a dwi’n eu defnyddio nhw lot – pam fyswn i’n talu i barcio ac am betrol pan allai ddod fan hyn a storio fy meic am £1.50 y dydd?”


Source link

Advertisements

See also  Does Cardiff need a new railway station for the east of the city?

Check Also

Cardiff Half Marathon: Joyciline Jepkosgei sets new record

Kenya’s Joyciline Jepkosgei set a new women’s course record when winning the 2026 Cardiff Half …

Arnhydeddu’r gantores Mary Hopkin am ei ‘dylanwad parhaol’

Dechreuodd Mary Hopkin ei gyrfa fel cantores yn ei harddegau, gan berfformio ar gyfres adloniant …

Glamorgan complete squad with Hannah Jones and Amy Wheeler signings

Glamorgan have completed their squad for tier-one cricket in 2027 by signing Hannah Jones and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime