google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynnwys rhan o Wynedd mewn parc cenedlaethol yn ‘risg i’r iaith’

Advertisements

Mae rhybudd y gallai cynnwys rhan o ardal Penllyn o fewn parc cenedlaethol newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru fod yn “risg” i’r Gymraeg yn un o’i chadarnleoedd.

Yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, byddai Parc Cenedlaethol Glyndŵr yn ymestyn o’r arfordir ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, hyd at Sir y Fflint, Wrecsam a gogledd Powys.

Ond byddai hefyd yn cynnwys cymuned Llandderfel ger Y Bala o fewn ei ffiniau, ac mae pryderon gan Gyngor Gwynedd y byddai’r corff newydd yn “gwanhau’r ffocws ar ystyriaethau Cymraeg mewn cynllunio a pholisi”.

Os caiff y parc cenedlaethol newydd ei fabwysiadu, mae disgwyl y byddai’r gwaith o greu polisi a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn symud i fod yn gyfrifoldeb i’r parc cenedlaethol newydd, yn hytrach na chynghorau.

Ond gyda tua 65% o bobl Llandderfel yn medru’r Gymraeg, mae rhai yn cwestiynu faint o sylw fyddai’n cael ei roi i’r iaith gan fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn llawer is mewn rhannau eraill o’r parc arfaethedig.

Mewn ymateb dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod asesiad effaith wedi dangos na fyddai dynodi parc cenedlaethol newydd “yn debygol o gael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg”.


BBC News

Views: 0

See also  Gwynedd zipline conquered by 94-year-old thrill seeker

Check Also

Cyn-AS Ceidwadol o Gymru yn pledio’n euog i drosedd gamblo ar ddyddiad yr etholiad

Pan ddaeth y sgandal i’r amlwg gyntaf, fe wnaeth Williams gyfaddef iddo wneud “camgymeriad enfawr” …

Galw ar Andy Burnham i ‘weithredu’n wahanol i’w ragflaenwyr’ ar ddatganoli

Mae llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, David Chadwick hefyd yn galw am fwy …

Welsh football bosses reveal cost to improve facilities

The FAW-backed review saw local clubs and local authorities – and other sporting bodies – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
power only alaska. power only west virginia.