google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Cynlluniau parcio newydd Caerdydd yn ‘cosbi myfyrwyr’

Advertisements

Os daw’r newidiadau i rym, bydd yn rhaid i feiciau modur gael trwyddedau hefyd ond fe fydd yna drwyddedau arbennig ar gael i weithwyr iechyd a gofalwyr.

Fe fydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno’n raddol dros y deng mlynedd nesaf.

Yng nghanol y ddinas fe fydd gyrwyr anabl, tacsis, bysiau a cherbydau sy’n dosbarthu nwyddau yn cael blaenoriaeth.

Fe fydd yna reolau parcio mewn grym drwy’r dydd bob dydd a fydd yna ddim trwyddedau parcio i drigolion.

Yn yr ardal fewnol fe fydd yna amrywiaeth o barcio ar gael ond bydd yn rhaid talu rhwng 08:00 a 22:00 bob dydd.

Fydd yna ddim trwyddedau parcio i fusnesau ac fel rheol fydd ddim modd llwytho rhwng 08:00 a 22:00.

Yn yr ardal allanol fe fydd yna amrywiaeth o barcio ar gael ond bydd cyfyngiadau yn cael eu cyflwyno ar ôl ymgynghori gyda phobl leol.

Fe fydd yr oriau mae’n rhaid talu am barcio yn amrywio ond bydd yn rhaid gwneud hynny hyd at 18:30.

Mae ‘na gynllun i gyflwyno tal ychwanegol am gerbydau mawr fel ‘SUVs’ a cherbydau sy’n llygru’n waeth na cheir eraill mewn ymgais i berswadio pobl i ddefnyddio ceir llai.


BBC News

See also  Ozzy the dog sets Guinness World record for longest canine tongue

Check Also

First Minister Rhun ap Iorwerth wants swift Welsh Gender Service review

A review into surgery services at Wales’ only transgender clinic must be quick, First Minister …

Woman died of heatstroke climbing Yr Wyddfa, inquest hears

A 35-year-old woman died of heatstroke on Wales’ highest mountain, an inquest has heard. Sophie …

Arestio pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym Môn yn 1994

Mae tîm adolygu troseddau mawr Heddlu’r Gogledd wedi bod yn adolygu’r achos ers 2024. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime