google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynghorwyr Wrecsam yn cael mynd ag achos i’r Llys Apêl

Yn y Llys Apêl, dywedodd yr Arglwydd Ustus Lewison fod gan yr apêl “obaith gwirioneddol o lwyddiant” a’i fod yn “codi pwynt pwysig o egwyddor”.

Wrth ymateb i’r caniatâd i apelio, dywedodd cynghorwyr sy’n gwrthwynebu’r cynllun ei fod yn “ddatblygiad arwyddocaol iawn.”

“Mae’n cydnabod bod yna fudd cyhoeddus sylweddol i gynghorwyr yn cael eu gorfodi, ar fygythiad o garchar neu ddirwyon, i fabwysiadu cynllun yr oeddent wedi pleidleisio yn ei erbyn ddwywaith oherwydd eu bod yn credu nad oedd er lles gorau’r bobl y maent yn eu cynrychioli.”

Yn dilyn yr Adolygiad Barnwrol, cafodd cynghorwyr wybod y gallai’r awdurdod lleol fod mewn dirmyg llys pe bai’n pleidleisio yn erbyn y cynllun eto.

Roedd y cyngor cyfreithiol gan swyddogion y cyngor yn dweud pe bai’r barnwr yn canfod y cyngor mewn dirmyg llys, fe allai wneud gorchymyn yn erbyn cynghorwyr unigol, gyda chosbau posib yn cynnwys “cyfnod o garchar, dirwy, atafaelu asedau neu gosb arall a ganiateir gan y gyfraith.”

Fe ofynnodd BBC Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ymateb i ganiatau’r apêl, ond doedd yr awdurdod lleol ddim am wneud sylw.


Source link

Advertisements

See also  Adam Idah: Swansea City striker suffers hamstring injury blow

Check Also

Pum munud gyda Bardd y Mis Bethany Celyn

Dod i adnabod y cerddor a Bardd y Mis BBC Radio Cymru. BBC News Khamrah …

Kane James: ‘Improving’ Wales forward impresses Exeter boss Rob Baxter

Exeter boss Rob Baxter says he has been impressed with how young Wales back-row Kane …

Gorfod dewis rhwng ‘byw gyda stoma’ a ‘theithio ar wyliau’

Dywedodd Awdurdod Hedfan Sifil y DU (CAA) fod yn rhaid i feysydd awyr sicrhau bod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime