google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyn-heddwas wedi marw ar ôl cael ei daro gan fan ger Caernarfon

Advertisements

Cafodd cyn-heddwas ei daro gan fan ar ffordd osgoi ger Caernarfon, mae cwest wedi clywed.

Fe glywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon fod Geraint Jones, 64 oed o Fangor, wedi marw ar ôl cael ei daro gan fan Ford Transit wrth gerdded ar yr A487 ffordd osgoi Caernarfon ger Y Bontnewydd ar 9 Tachwedd.

Fe glywodd y cwest fod Mr Jones, a oedd yn wreiddiol o’r Felinheli, wedi ei gadarnhau’n farw ar safle’r digwyddiad am 20:46.

Dywed Crwner Cynorthwyol gogledd orllewin Cymru, Sarah Riley, fod archwiliad post mortem wedi canfod mai achos ei farwolaeth oedd anaf difrifol i’w ben, ei frest a’i abdomen.

Fe gafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau barhau.

Fe wnaeth aelodau o’i deulu rhoi teyrnged i Mr Jones yn dilyn y gwrthdrawiad gan ddweud: “Rydym wedi ein llorio o golli gŵr, tad a thaid annwyl.

“Mae Geraint yn gadael ei wraig, Mary, ei feibion, Richard a Patrick, ei wyres Ella a’i wyrion Leo ac Isaac.”


BBC News

Views: 2

See also  Vandals destroy Ebbw Vale toilets used by owl sanctuary

Check Also

Cannoedd yn ymuno â thaith goffa i ddyn 18 oed fu farw yng Ngorseinon

Daeth cannoedd ynghyd yng Ngorseinon i gofio Ceiran Evans mewn taith o feiciau a cherbydau …

Wales beat Tonga in final preparation for Commonwealth Games netball

Wales completed preparations for the Commonwealth Games in style as they beat Tonga 65-52 in …

World Rally Championship: Elfyn Evans extends title lead despite finishing sixth in Estonia

Elfyn Evans extended his lead in his bid for a first World Rally Championship (WRC) …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
sexual wellness archives health care pharmacy. This notice is dynamic and governs all provided content on research peptides.