google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyn-beldroediwr proffesiynol: ‘O’n i’n meddwl bod strôc yn digwydd i bobl hŷn’

Advertisements

“Mae’n bwysig iawn adnabod y symptomau – yr wyneb yn disgyn, y lleferydd yn slyrio, y fraich yn ddiffrwyth efallai, ac os ydy’r symptomau yma gan rywun iddyn nhw ffonio 999 yn syth.

“Mae yna waith gwella a ‘da ni’n gweithio efo’r byrddau iechyd a hefyd efo’r llywodraeth yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y gwelliannau yna’n cael eu gwneud.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mi fydd eu cynlluniau strôc diweddara’n cael eu cyhoeddi’r wythnos nesa’, pan fyddan nhw’n atgyfnerthu’r pwyslais ar atal, ac ar fynediad at wasanaethau a chymorth. Mae’r gwrthbleidiau yn y Senedd yn galw am wneud mwy i wella’r sefyllfa.

Gyda thriniaeth a chefnogaeth, mae Marc Lloyd Williams wedi gwella erbyn hyn ond yn pwysleisio pwysigrwydd cadw golwg ar bwysau gwaed. Fel rhan o hynny, mae wedi gosod her i redeg Marathon Llundain fis Ebrill er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth.

Meddai: “Mae’n 10 mlynedd yn 2026 ers i fi gael y strôc a o’n i’n meddwl ar y pen-blwydd yna fasa hi’n beth da i godi arian i’r Gymdeithas Strôc i helpu nhw helpu pobl er’ill sy’n mynd i gael strôc yn y dyfodol.

“Ac hefyd i godi ymwybyddiaeth oherwydd dydy strôc ddim yn gwahaniaethu – na pwysa’ gwaed uchel.

“‘Swn i’n annog unrhyw un sydd yn poeni am bwysa’ gwaed i fynd allan i gerdded yn hir neu ddechra’ rwbath fel nes i – y Couch to 5K – a buan iawn wedyn ma’ pobl isho g’neud mwy a mwy.”


BBC News

Views: 4

See also  Reform Senedd candidate blamed Nato for Ukraine war

Check Also

Sketty teen with cerebral palsy walks for first time with exoskeleton

Cerebral palsy, external affects about one in 400 children in the UK, according to the …

Cwmbran man, 102, dies after alleged assault at Crow’s Nest pub

A 102-year-old man has died after allegedly being assaulted at a south Wales pub. Phillip …

First minister urges retailers to halt disposable barbecue sales

The first minister has urged Welsh retailers to stop selling disposable barbecues as this summer’s …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Cpanel reseller hosting hostrite hosting news updates. elfbar elfa kit. Elfbar elfa kit.