google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymunedau yn Sir Gâr dal heb gysylltiad â’r we wedi Storm Darragh

Ers 8 Rhagfyr mae Carol yn honni ei bod wedi derbyn sawl dyddiad gan Openreach ynglŷn â phryd gallan nhw ddisgwyl y llinellau’n ôl, y dyddiad diweddaraf yw 23 Rhagfyr.

“Dwi wedi defnyddio fy nata i gyd a dau lwyth ychwanegol o ddata ar fy ffôn wrth geisio mynd trwyddo i BT”, meddai Carol.

Ar un achlysur, meddai, “cefais fy nal yn aros 45 munud yn gwrando ar gerddoriaeth Nadolig, doedd hynny ddim yn help”.

Mae mam Carol bellach wedi mynd yn ôl i’w chartref yn Basingstoke, ond dyw Carol ddim yn gwybod sut gyflwr sydd ar ei mam, oherwydd nad yw’n gallu ei ffonio. Dywedodd fod yn rhaid i’w mam fynd adref, “er mwyn bod yn saff”.

“Mae gen i dri brawd lle mae hi’n byw. Mi fydden nhw’n medru ffonio am ambiwlans heb unrhyw ffwdan oherwydd bod gyda nhw gysylltiad ffôn. Yma, doedd gen i ddim sicrwydd, pe bawn i angen, y byddwn i’n medru cysylltu ag ambiwlans.

“Mae wedi fy ngwneud yn bryderus ac yn rhwystredig iawn nad yw BT i weld yn poeni.”


Source link

Advertisements

See also  Canmoliaeth i'r fyddin sy'n helpu i ddiffodd y tanau mawr yng Nghymru

Check Also

DNA testing in north Wales to identify dogs in livestock attacks

Wales wildlife and rural crime coordinator Rob Taylor said 90% of attacks were resolved outside …

Bulls v Scarlets: Lock Tom Allen makes debut for Wales side

Bulls: Le Roux; Maart, Gans, Vorster, Jacobs; Bosch, de Wet; Tshakweni, Wessels, Mchunu, Vermaak, van …

‘Mwy o bwysau’ ar gynorthwywyr ond ‘dim tâl i helpu â hynny’

Yn ôl ystadegau gan Lywodraeth Cymru, roedd 29,070 o weithwyr cefnogi yn cael eu cyflogi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime