google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymuned Cwmtyleri yn ‘byw mewn ofn’ wedi tirlithriad ‘brawychus’

Advertisements

Bu Mr Irranca-Davies, sydd hefyd yn gyfrifol am newid hinsawdd yng nghabinet Llywodraeth Cymru, yn cwrdd â thrigolion ar ei ymweliad.

Dywedodd bod y cyngor lleol wedi cyflwyno cais am arian ychwanegol – gwerth £610,000 – dan gynllun grant y llywodraeth ar gyfer diogelwch tomenni glo.

Byddai hyn yn helpu cam nesa’r gwaith trwsio, eglurodd.

Roedd yn addo ystyried atebion hirdymor ar gyfer y safle “ar frys”.

“Mae’r tirlithriad a ddigwyddodd yn dangos pa mor hanfodol yw ein gwaith o ran diogelwch tomenni glo,” meddai.

“Rydym wedi buddsoddi mwy na £100m ers 2022 i helpu i sicrhau bod cymunedau sy’n byw ger hen domenni yn ddiogel, nawr ac yn y dyfodol.”

“Ym mis Rhagfyr, fe wnes i hefyd gyflwyno’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) i’r Senedd, a fydd yn moderneiddio deddfwriaeth ac yn sefydlu corff cyhoeddus newydd erbyn mis Ebrill 2027 i sicrhau diogelwch hirdymor y safleoedd hyn.”

“Yn y cyfamser, mae ein rhaglen waith yn mynd rhagddi o hyd a byddaf yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i gyflawni trefn effeithiol o ran prosesau archwilio a gwaith cynnal a chadw ledled Cymru.”


BBC News

Views: 0

See also  Pum munud gyda... Nic Davies

Check Also

Cyfryngau cymdeithasol cynghorydd arbennig Reform yn cynnwys sylwadau hiliol

Mae BBC Cymru wedi cael gweld copïau o ddwsinau o negeseuon Facebook sarhaus, yn aml …

Raising productivity key to higher Welsh wages, says minister

Adam Price wants to halve the productivity gap between Wales and the rest of the …

Councillor told to rearrange cancer appointment to attend a budget meeting quits Labour

Sue Riley says after a year “of trying to get it addressed I have decided …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Go beyond simple links with powerful features designed for creators.