google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymru’n curo Leichtenstein 1-0 mewn gêm bwysig

Advertisements

Deuchreuodd yr ail hanner yn dawelach a Chymru’n ei chael hi’n anodd ail-gydio yn y momentwm ond ni barodd hynny’n rhy hir.

Daeth cyfle enfawr ar ôl 55 o funudau i Dan James wrth iddo daro’r postyn.

Funduau’n ddiweddarach ffeindiodd Neco Williams ei hun ar ddiwedd croesiad hyfryd wrth y postyn pellaf ond rhywsut colli cyfle arall wnaeth Cymru.

Fe ddaeth y gôl diolch i Jordan James ar ôl awr o chwarae. Dan James unwaith eto’n croesi’r bêl ar hyd wyneb y gôl a Jordan James yn aros amdani.

Yn ystod hanner awr olaf y gêm fe ddaeth eilyddion ymlaen ac fe ddechreuodd Liechtenstein roi ychydig o bwysau ar amddiffyn Cymru.

Ond fe lwyddodd dynion Craig Bellamy ddal ymlaen i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Y gred ydy bod tua 3,000 o gefnogwyr Cymru wedi teithio i Liechtenstein ac nawr mae gobeithion Cymru dal yn fyw i gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd.

Gwlad Belg yw’r ffefrynwyr o hyd i ennill y grŵp rhagbrofol ond os ydy Cymru’n curo Gogledd Macedonia mi fyddan nhw’n gorffen yn yr ail safle – fydd yn rhoi llwybr haws iddyn nhw yn y gemau ail-gyfle.


BBC News

See also  Huw Aaron yn ennill gwobr llyfr plant y flwyddyn Waterstones

Check Also

Welsh rugby’s key signings ahead of 2026-27 season

Cardiff have plenty of firepower in the backs but need to provide a platform if …

Ex-Wrexham player Hari Roberts calls for more support for youngsters released by clubs

A young footballer has described the impact on his mental health after failing to secure …

Disgwyl i Gyngor Gwynedd oedi penderfyniad ar gyflwyno ardoll ymwelwyr

Os yn cael ei gymeradwyo, bydd y rhai sy’n ymweld ag ardaloedd sydd wedi dewis …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime