google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 28 2026

Cymru gyfan yn symud i statws ‘tywydd sych estynedig’

7b5515e0 3715 11f0 8947 7d6241f9fce9.jpg

Dywedodd Rhian Thomas, rheolwr dŵr a natur cynaliadwy CNC: “Er bod rhywfaint o law gwerthfawr yn cael ei ragweld ar gyfer y penwythnos ac yn ystod yr wythnos nesaf, bydd yn cymryd amser a mwy o lawiad sylweddol cyn y bydd lefelau afonydd a chronfeydd dŵr yn adfer ar ôl y cyfnod estynedig poeth a sych hwn.

“Mae dechrau mor sych i’r flwyddyn yn achosi pryder sylweddol i iechyd ein hecosystemau a’n cynefinoedd, yn ogystal ag i reoli tir a’r sector amaethyddol.

“O’r herwydd, rydym wedi gwneud y penderfyniad i symud Cymru gyfan i statws tywydd sych estynedig.

“I ni, mae hyn yn golygu cynyddu ein camau gweithredu a’n gwaith monitro ar draws Cymru i helpu i liniaru’r effeithiau ar yr amgylchedd, y tir, a’r defnyddwyr dŵr a phobl, ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.”

Ychwanegodd y bydd swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu’r statws ac yn gweithio i leihau’r effaith ar yr amgylchedd a defnyddwyr dŵr.

“Er mwyn sicrhau y gellir parhau i gyflenwi dŵr heb niweidio’r amgylchedd, mae’r cyhoedd a busnesau ledled Cymru yn cael eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a rheoli’r adnodd gwerthfawr hwn,” meddai.


BBC News

Advertisements

See also  Dyn yn euog o lofruddio cymar ei fab yn Llanelli

Check Also

Cynghorydd sir yn un o dri yn ddieuog o gyhuddiadau twyll bridio cŵn

Mae tri o bobl wedi eu cael yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll …

Cynghorydd sir yn un o dri yn ddieuog o gyhuddiadau twyll bridio cŵn

Mae tri o bobl wedi eu cael yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll …

Osian Pryce: ‘Mae’n od bod Elfyn yn Bencampwr y Byd a fi’n Bencampwr Prydain’

Mae Osian Pryce o Fachynlleth wedi cipio tlws Pecampwriaeth Rali Prydain Motorsport UK am yr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime