google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo pedwar person o lofruddiaeth bachgen 17 oed yn Abertridwr

Mae pedwar person wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth bachgen 17 oed a fu farw yn dilyn digwyddiad yn Abertridwr, sir Caerffili, brynhawn Iau.

Bu farw Tristan Shae Kerr, o Abertridwr, ar ôl i’r heddlu gael eu galw i eiddo ar Stryd Francis Isaf tua 17:45 ddydd Iau ar ôl adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei anafu’n ddifrifol.

Mae tri dyn, 18, 24 a 26 oed, a menyw 24 oed wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth ac wedi’u cadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.

Mae menyw 28 oed o Henffordd, a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, bellach wedi’i rhyddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion wedi mynychu eiddo yn Abertridwr yn dilyn adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei anafu’n ddifrifol ac iddo gael ei ddatgan yn farw yn y fan a’r lle.

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths, ei bod yn bwysig nad yw pobl yn dyfalu pwy oedd yn rhan o’r digwyddiad gan y gallai hynny effeithio ar yr ymchwiliad.

Ychwanegodd, “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu a ffrindiau’r dioddefwr. Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, siaradwch â’n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol.”


BBC News

Advertisements

See also  Watch burst drain during Storm Bert tear road open in Llanhilleth

Check Also

Row over sex shop plan and ex-boss fleeces school of £5m

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Rare Bog Grass Moth species found in Gwynedd nature reserve

A rare species of moth has been found in north Wales. The Bog Grass Moth …

World Rally Championship: The five titles that got away as Elfyn Evans closes in on elusive crown

A revamp of the points system for 2025 was welcomed by Evans; it also brought …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime