google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo Huw Edwards o greu lluniau anweddus o blant

Mae cyn-gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards, yn wynebu tri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant, yn ôl Heddlu’r Met yn Llundain.

Dywed y llu bod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng Rhagfyr 2020 ac Ebrill 2022, ac “yn gysylltiedig â delweddau a gafodd eu rhannu mewn sgwrs WhatsApp”.

Maen nhw’n dweud bod Mr Edwards wedi cael ei arestio ar 8 Tachwedd 2023 a’i gyhuddo ar 26 Mehefin eleni wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron awdurdodi hynny.

Ychwanegodd eu datganiad ei fod “ar fechnïaeth i ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher 31 Gorffennaf”.

Mae’r llu yn rhybuddio’r cyfryngau a’r cyhoedd bod yr achos yn un gweithredol, a ni ddylai unrhyw un gyhoeddi unrhyw beth, “gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol” a allai amharu ar yr achos yn y dyfodol.

Mae Mr Edwards yn cael ei gyhuddo o fod â chwe llun categori A, 12 llun categori B ac 19 llun categori C ar WhatsApp.

Os yn euog fe allai wynebu dedfryd o chwe mis yn y carchar a/neu ddirwy.

Fe gadarnhaodd y BBC ym mis Ebrill bod Mr Edwards, sy’n 62 oed, yn gadael y gorfforaeth ar sail meddygol.


Source link

See also  Olympic taekwondo champion Jade Jones earns knockout win on boxing debut

Check Also

Cymru Premier: Third win on spin for Connah’s Quay

Connah’s Quay Nomads enjoyed their third successive win in Cymru Premier by beating new boys …

Torfaen becomes global hotspot for carbon emissions after wildfires

Melanie Simmonds, head of Save the Children Wales, said: “In Wales and across the world, …

Cofrestru yn yr Eisteddfod ‘a rŵan ella bo’ fi’n rhoi cyfle arall i rywun fyw’

I Elin, mae’r ffaith mai cofrestru yn yr Eisteddfod, ar fympwy, oedd dechrau’r daith yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime