google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo Dŵr Cymru o ‘ddiffyg uchelgais’ wrth ddelio â llygredd

D8bd9d30 1a26 11f0 b1b3 7358f8d35a35.jpg

Advertisements

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn “gweithredu dros 2,300 o orlifau stormydd yng Nghymru gan fod gennym nifer uchel iawn o asedau ar gyfer poblogaeth gymharol fach.”

“Mae llawer o’n cymunedau gwledig yn cael eu gwasanaethu gan rwydweithiau carthffosiaeth llai a gorlifoedd stormydd, sy’n hanfodol i sicrhau nad oes gormod o straen ar rwydweithiau gan achosi llifogydd mewn eiddo.”

Dywedodd y llefarydd bod gorlif bach iawn yn rhywle yng nghefn gwlad Cymru, yn cyfri’r un faint a gorlif enfawr mewn dinas yn y DU – “un y gallech ddreifio bws trwyddo.”

“Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn buddsoddi £2.5bn ar brosiectau i wella’r amgylchedd, gan gynnwys £889m ar ymchwilio a gwella gorlifoedd stormydd.”

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, y rheoleiddwyr, eu bod “wedi bod yn glir iawn gyda Dŵr Cymru ei fod yn hollbwysig ein bod yn gweld newid sylweddol yn eu perfformiad, a gostyngiad sylweddol mewn achosion o lygredd.”

“Ers 2021, rydym wedi israddio’r cwmni o fod yn gwmni pedair seren (arwain y diwydiant) i gwmni dwy seren (angen gwella).

Ychwanegon nhw y bydden nhw’n monitro cwmnïau dŵr yn agos dros y pum mlynedd nesaf, “gan wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen i wirio’r gollyngiadau sy’n achosi’r niwed mwyaf i’r amgylchedd.”


BBC News

Views: 1

See also  Powys man with multiple sclerosis enjoys awe-inspiring views few ever see

Check Also

Wrexham news: Josh Windass to miss Leeds United test

Wrexham have enjoyed a positive start to what is a tough pre-season schedule. They held …

Ailagor canolfan fwyd cymunedol o fewn 48 awr i gar ddifrodi’r adeilad

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 16:00 ddydd Mercher pan aeth car am yn ôl i mewn …

Kemi Badenoch ‘worried’ about Welsh government demands for more powers

The leader of the UK Conservatives has said she “would be very worried” about a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Mens hiking boots.