google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhoeddi ymchwiliad cyhoeddus i gynllun dadleuol parc cenedlaethol newydd

Advertisements

Cafodd proses ffurfiol i benderfynu a oedd yr ardal arfaethedig yn ateb gofynion parc cenedlaethol ei arwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan gostio oddeutu £700,000 y flwyddyn rhwng 2022-25.

Ym mis Ionawr 2026, pleidleisiodd bwrdd y sefydliad o blaid cefnogi’r cynlluniau a chyhoeddi gorchymyn dynodi ar gyfer Parc Cenedlaethol Glyndŵr.

Roedd 58% o’r 1,678 o ymatebion i’r ymgynhoriad terfynol o blaid y parc, gyda 14% yn rhagor yn cynnig cefnogaeth amodol.

Roedd 31% yn erbyn y cynlluniau, a 3% eto i benderfynu.

Ond roedd y pum cyngor fydd yn cael eu heffeithio gan ffiniau’r parc wedi datgan amheuon am y cynllun, gyda nifer yn cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol.

Mae hynny’n golygu bod rhaid i’r broses symud at ymchwiliad cyhoeddus lleol – lle bydd arolygydd cynllunio yn craffu ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn cyn cyflwyno argymhelliad i weinidogion.

Mae’n golygu hefyd nad yw’r llywodraeth bresennol yn medru penderfynu ar ddyfodol y parc cyn etholiad y Senedd fel yr oedden nhw wedi dymuno. Fe fydd yn fater i bwy bynnag sy’n fuddugol wedi 7 Mai i fwrw ati ai peidio.


BBC News

Views: 2

See also  North Wales Police officer 'mortified' by CCTV of alleged groping

Check Also

Women’s Six Nations: Gwen Crabb to miss Wales’ final game against Italy

Gwen Crabb will miss Wales’ final game of the Women’s Six Nations against Italy with …

Welsh rugby: The ecstasy and agony of selection for Wales players

Exeter back row Kane James is one of the new faces and probably the most …

Rhigos man jailed for driving bulldozer into pub in ‘revenge attack’

On the evening of 4 December, police were called to reports that a bulldozer had …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Divorce private investigator las vegas – francis & associates. क्या है ivr धोखाधड़ी ?.