google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhoeddi prif swyddogion Eisteddfod Genedlaethol Powys 2027

Peter Jones fydd yn arwain cronfa leol Eisteddfod 2027, ac mae’n edrych ymlaen at gydweithio’n lleol a chenedlaethol i sicrhau digwyddiad llwyddiannus, unigryw a chofiadwy i bawb.

Yn dilyn gyrfa yn y sector cyflenwi amaethyddol a llywodraeth leol, mae Peter wedi ymddeol ac yn cyfrannu at fywyd lleol fel llywodraethwr yn Ysgol Bro Hyddgen ac aelod o Gwmni Theatr Maldwyn.

Gyda’i gwreiddiau’n ddwfn yng Nglantwymyn, Heulwen Davies fydd is-gadeirydd strategol y pwyllgor gwaith.

Yn rhedeg cwmni marchnata a chysylltiadau lleol ers blynyddoedd, mae Heulwen yn edrych ymlaen at bwysleisio fod yr Eisteddfod yn ŵyl i bawb.

Mae’n edrych ymlaen yn arbennig at y gwaith o gydweithio gyda chymunedau ar draws y dalgylch i harddu’r ardal leol wrth i’r Eisteddfod agosáu.


BBC News

Advertisements

See also  Prifathro Dyffryn Aman yn canmol 'ymateb aeddfed' disgyblion

Check Also

Murder-accused and teen had ‘beef’ before fatal stabbing – court

A man accused of murdering a teenager along with three others had been involved in …

Bachgen, 6, wedi disgyn o’i feic cyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy – cwest

Mewn teyrnged ar dudalen i godi arian i’r teulu wedi’r digwyddiad, cafodd Harrison ei ddisgrifio …

Josh Windass: Wrexham ease fears over forward’s injury

Josh Windass will miss Wrexham’s Championship fixture against West Bromwich Albion, although manager Phil Parkinson …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime