google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyfyngu ar symud da byw o Loegr i Gymru oherwydd y tafod glas

Df7f72e0 479b 11f0 9471 e380f647874e.jpg

Advertisements

Roedd arweinwyr y diwydiant amaeth wedi galw am gyd-fynd a’r drefn yn Lloegr, a pheidio â chyflwyno cyfyngiadau ar symud da byw dros y ffin – gan frandio hynny fel “ymdrech ofer ac anymarferol”.

Dywedodd Mr Irranca-Davies, sydd hefyd â chyfrifoldeb dros faterion gwledig, ei fod yn gwerthfawrogi bod ‘na deimladau cymysg a’i fod wedi gwrando ar farn ffermwyr a milfeddygon.

Ond yn y pendraw daeth i’r casgliad na allai “wahodd y tafod glas i Gymru ar 1 Gorffennaf trwy gyd-fynd â’r parth cyfyngedig yn Lloegr.”

“Nid wyf yn fodlon peryglu effaith ansicr y clefyd mewn ardaloedd lle mae llawer o dda byw, fel y Gororau,” meddai.

“Rwyf hefyd yn bryderus iawn am effeithiau ar yr economi ac ar les ffermwyr o ddelio ag anifeiliaid sâl, a cholledion o safbwynt ffrwythlondeb a chynhyrchiant da byw sy’n gysylltiedig â thafod glas difrifol, fel y gwelwyd mewn llawer o wledydd Ewropeaidd.”

Byddai profi da byw sy’n dod i Gymru yn caniatáu amser i fonitro effeithiau’r tafod glas yn Lloegr a sicrhau bod mwy o ffermwyr Cymru yn medru brechu eu hanifeiliaid, ychwanegodd.

Wrth gydnabod y byddai rhai yn siomedig â’i gyhoeddiad ac y byddai yna “ofynion trwyddedu, costau profi da byw a phwysau masnachol eraill yn deillio o fy mhenderfyniad”, dywedodd ei fod yn ymrwymo i adolygu’r polisi yn rheolaidd.


BBC News

Views: 0

See also  Penkridge crash survivor pays tribute to 'amazing' friends

Check Also

Tour de Suisse Femmes: Zoe Backstedt sprints to stage three victory

British rider Zoe Backstedt (Canyon-SRAM) won stage three of the Tour de Suisse Femmes on …

Wales appoint Paul James as permanent scrum coach

Wales have appointed Paul James as the national team’s permanent scrum coach. The 44-year-old former …

Cais i herio cau Ysgol Meidrim wedi ei wrthod gan yr Uchel Lys

Roedd y Barnwr Jarman KC wedi cytuno i dderbyn her ar ddwy sail, sef nad …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Heavy equipment transport king wa. farm equipment transport tennessee.