google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyfres yr Hydref: ‘Pethe ddim yn edrych yn dda i Morgan’

Advertisements

Mae Cymru’n debygol o fod heb y capten Jac Morgan ar gyfer gweddill gemau Cyfres yr Hydref wedi iddo ddatgymalu ysgwydd yng ngêm ddydd Sul yn erbyn Yr Ariannin.

Cafodd y blaenasgellwr anaf wrth sgorio cais yn ail hanner yr ornest yn erbyn yr ymwelwyr a’u trechodd o 52 pwynt i 28.

Dywedodd y priof hyfforddwr Steve Tandy: “Dydy pethe ddim yn edrych yn dda i Jac.

“Mae’n ergyd enfawr – mae’n chwaraewr o’r radd flaenaf ar lefel byd-eang.

“Mae’n chwaraewr pwysig i ni a ry’n ni’n gwybod gymaint mae e’n caru chwarae i Gymru a sut mae e’n arwain y tîm.

“Rwy’ wedi ei weld yn yr ystafelloedd newid – mae wedi ei lorio. Yn y pendraw nawr, y flaenoriaeth yw adferiad Jac.”

Roedd cais Morgan – ei wythfed cais rhyngwladol – yn un o uchafbwyntiau’r gêm yn Stadiwm Principality, Caerdydd ac roedd ei berfformiad, yn ôl Tandy, “yn rhagorol”.

Wrrth drafod yr angen i lenwi’r bwlch yn y garfan ar gyfer gweddill y gemau prawf cyn diwedd y mis yn erbyn Japan, Seland Newydd a De Affrica, awgrymodd Tandy chwaraewr Caerlŷr Tommy Reffell a blaenasgellwr y Gweilch Harri Deaves fel opsiynau posib.


BBC News

Views: 0

See also  Aron Sinclair's family pay tribute to him after he died in crash

Check Also

Ethan Galbraith & Svante Ingelsson: Stoke City sign Swansea & Sheff Wed midfielders

Stoke City have signed Northern Ireland midfielder Ethan Galbraith for a reported £10m after also …

Dyn 18 oed wedi marw ar daith Gwobr Dug Caeredin ym Mhowys

Mae Gwobr Dug Caeredin wedi cadarnhau fod y dyn ifanc yn cymryd rhan mewn un …

18-year-old drowns on Duke of Edinburgh expedition in Glasbury

An 18-year-old has died in the River Wye during a Duke of Edinburgh (DoE) Award …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
This product has multiple variants.