google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

Cyfres yr Hydref: Cymru’n colli’n drwm i Dde Affrica

Yr her i Gymru wedi’r egwyl oedd ceisio sicrhau mwy o feddiant a threulio llai o amser yn eu hanner eu hunain yn erbyn tîm nerthol a chyflym sy’n pasio mor gywir.

Enillodd y tîm cartref gic gosb gynnar ond fe wnaethon nhw wastraffu’r cyfle gan ildio’r meddiant.

O fewn dim roedd Aphelele Fassi wedi sgorio pumed cais y Springboks ar ôl tirio yn y gornel.

Wedi ychydig dros awr o chwarae, daeth eu chweched – symudiad a darddodd o gic rydd gyflym o’r sgrym a Gehard Steenekamp wnaeth ei sgorio.

Doedd De Affrica ddim cweit cystal tîm yn yr ail hanner ac fe gafodd Cymru ambell gyfnod addawol.

Eto i gyd doedd dim modd atal y bwlch rhag agor ymhellach – roedd yna un cais arall i ddod gan yr ymwelwyr, y tro hwn gan Jordan Hendrikse a giciodd yn gywir wedi hynny i wneud hi’n 5-45.

Ond fe lwyddodd Cymru i leddfu siom eu cefnogwyr fymryn yn symudiadau olaf y gêm – fe wibiodd James Botham trwy amddiffyn i sgorio ail cais ei dîm a gyda throsgais Ben Thomas y sgôr terfynol oedd 12-45.


Source link

Advertisements

See also  Cymru Premier: Barry extend perfect start as Haverfordwest finally score

Check Also

TV show teacher accused of sex assault and cocaine-dealing solicitor jailed

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Cardiff Sixth Form College former director admits multi-million pound theft

Two people have pleaded guilty to charges relating to a multi-million pound fraud at Cardiff …

‘Small window’ for additional learning needs funding deal, says first minister

The first minister has called on the leader of Welsh Labour to work with his …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime