google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Cwyn Siân Doyle am erthygl Nation.Cymru wedi’i diystyru

Roedd pennawd yr erthygl gan Nation.Cymru, a gyhoeddwyd ar 14 Hydref 2023 pan oedd Ms Doyle yn dal yn brif weithredwr S4C, yn dweud ei bod “i ffwrdd o’i gwaith gyda stress” yn dilyn diswyddiad Llinos Griffin-Williams fel prif swyddog cynnwys.

Fe wnaeth Ms Doyle gŵyn i IPSO am yr erthygl ychydig dros ddeufis yn ddiweddarach, ar 19 Rhagfyr – wedi iddi hithau gael ei diswyddo.

Roedd hi’n dadlau fod hynny’n mynd yn groes i reolau darlledu ynglŷn â phreifatrwydd, am ei fod yn datgelu’r rheswm penodol ei bod hi i ffwrdd o’r gwaith, ac yn cynnwys “gwybodaeth feddygol breifat”.

Dywedodd nad oedd hi’n credu bod yr honiadau o fwlio yn ei herbyn yn ddigon o reswm i gyhoeddi’r fath wybodaeth.

Ond roedd Nation.Cymru wedi dadlau fod y wybodaeth o ddiddordeb i’r cyhoedd gan fod S4C “mewn argyfwng” ar y pryd, a bod staff y sianel a’r cyhoedd yn ehangach yn haeddu gwybod pam fod y prif weithredwr i ffwrdd o’i gwaith.


Source link

See also  Cardiff Catholic priest Mark Rowles sentenced for sending racist neo-Nazi messages

Check Also

James Taylor aims to make Wales a force in deaf football

Wales – like England – are hoping to send a squad to compete in the …

Cyflwr iechyd plant Cymru yn ‘frawychus ac yn gwaethygu’

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae iechyd plant yn bwysig ofnadwy, a byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad …

‘Siawns am beint?’: Atgofion magwraeth yn nhafarn C’mon Midffîld

Mae C’mon Midffîld yn rhan o hanes y pentref, a dyna o bosib fydd tynged …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime