google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Cwpan Ryder a’r chwaraewyr o Gymru

Advertisements

Fe chwaraeodd Dai Rees mewn naw Cwpan Ryder ac roedd yn gapten ar y tîm buddugol yn 1957.

Roedd Rees yn dod o Forgannwg ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r chwaraewyr golff gorau cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Dechreuodd chwarae yn 16 oed tra’n helpu ei dad ar gwrs golff Aberdâr.

Chwaraeodd ei Gwpan Ryder cyntaf yn 24 oed yn 1937 ar gwrs Southport and Ainsdale yn Lloegr, lle enillodd bwynt a hanner i Brydain, y sgôr uchaf yn y tîm, ond America enillodd o wyth pwynt i bedwar.

Roedd yn rhaid disgwyl degawd arall nes y gystadleuaeth nesaf o ganlyniad i’r Ail Ryfel Byd.

Cafodd Rees ei ddewis i Gwpanau Ryder 1947, 1949, 1951, 1953, 1955, 1957, 1959 ac 1961.

Roedd yn gapten yn 1957 ar gwrs Lindrick yn Lloegr ac fe enillodd Prydain o saith a hanner o bwyntiau i bedwar pwynt a hanner i America.

Dyma’r unig dro i America golli’r gwpan rhwng 1933 a 1985.

Aeth yn ei flaen i fod yn gapten dair gwaith eto dros Brydain yn 1959, 1961 ac 1967, ble’r oedd yn gapten doedd ddim yn chwarae.


BBC News

See also  Firefighters tackle huge blaze at former cinema in Lochgelly

Check Also

Experts divided on results of Wales’ Pisa tests

Schools could choose to do the test in Welsh or English, and in 2025 pupils …

Dyfodol darlledu Cymraeg ‘mewn perygl’ ac ‘mae’n rhaid newid ffi’r drwydded’

Dywedodd Pennaeth Materion Corfforaethol BBC Cymru Wales, Rhys Evans fod “BBC Cymru Wales yma i …

BBC Cymru Wales faces managed decline without more cash, MPs told

A senior BBC Cymru Wales executive has warned MPs the broadcaster does not have the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime