google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwest: Dyn 32 oed fu farw wedi bod yn yfed

Roedd dyn 32 oed fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn yfed, clywodd cwest yn Neuadd y Dref Llanelli.

Roedd Fraser Lloyd Parry o Gwrtnewydd, Llanybydder yn teithio ar y B4336 ar 17 Tachwedd 2023 pan fu ei fan Vauxhall Combo wen mewn gwrthdrawiad â Ford Fiesta glas a BMW X5 llwyd am 21:53.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad rhwng pentrefi Llanllwni a Llanfihangel-ar-arth ychydig. Bu farw Mr Parry yn y fan a’r lle.

Dywedodd y swyddog a oedd yn ymchwilio i’r achos, y Sarjant Gareth James o Heddlu Dyfed Powys, wrth y cwest fod pedair merch, a oedd yn teithio yn y Ford Fiesta glas, wedi dioddef anafiadau difrifol a bu’n rhaid i yrrwraig y Ford Fiesta gael ei thorri o’r cerbyd.

Esboniodd hefyd bod y Fan Vauxhall yn dilyn y BMW o gyfeiriad Llanllwni yn agos, ac wedi symud i ganol y ffordd cyn gwrthdaro â’r Ford Fiesta oedd yn dod o’r cyfeiriad arall.

Doedd dim niwed mawr i’r BMW ac ni ddioddefodd gyrrwr y BMW anafiadau.


Source link

Advertisements

See also  Flooding hits Swansea roundabout after heavy rain across Wales

Check Also

Galaru am golli tad yn arwain at ddyfeisio gêm newydd i S4C

Ond yn ystod y cyfnod anodd fe gafodd Gavin hwb annisgwyl i’w ysbryd oedd yn …

Cwis: Nofelau enwog y Gymraeg

Yr wythnos hon oedd dyddiad y ganwyd un o nofelwyr enwocaf y Gymraeg, Daniel Owen. …

Gwasanaeth newydd yng Ngwynedd yn helpu pobl ifanc i gael swyddi

Yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor, mae GISDA hefyd yn darparu cyfleoedd profiad gwaith …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime