google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cowbois Rhos Botwnnog yn gohirio ‘pob sioe yn y misoedd nesaf’

Mae un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru wedi gohirio’i holl berfformiadau yn y dyfodol agos yn sgil salwch eu prif leisydd.

Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau nos Wener diwethaf pan gafodd Iwan Huws ei daro’n wael.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ac fe ddywediodd y grŵp ddydd Sadwrn ei fod “bellach yn sefydlog yn yr ysbyty ac yn derbyn y gofal gorau posib”.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun, fe gafarnhaodd eu bod “yn anffodus” yn gohirio “pob sioe dros y misoedd nesaf”.

Mae’n golygu na fyddan nhw’n perfformio mwyach ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd nos Wener 9 Awst nag yn un o gigiau Cymdeithas yr Iaith yn y dref wythnos y Brifwyl nos Sul 4 Awst.

Maen nhw hefyd wedi gorfod tynnu’n ôl o Ŵyl y Dyn Gwyrdd ganol Awst.

Ychwanegodd y grŵp: “Diolch bawb am eich negeseuon a’ch cydymdeimlad.”


Source link

Advertisements

See also  Cardiff: New bus station finally to open on 30 June after delays

Check Also

Sut i redeg (a thorri recordiau) fel Angharad Mair

A hithau wedi bod yn rhedeg ers blynyddoedd bellach, mae’n siŵr y byddech chi’n tybio …

Cardiff half marathon runner dies

A runner has died after taking part in the Cardiff Half Marathon. Event organisers Run4Wales …

Rhaid parhau i adeiladu ffordd liniaru’r M4 yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig

Roedd adolygiad yn 2023 yn argymell peidio â pharhau gyda’r cynlluniau ar gyfer trydedd bont, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime