google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Corff menyw wedi’i ddarganfod mewn afon yn Llangollen

Advertisements

Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio wedi i gorff menyw gael ei ganfod mewn afon yn Llangollen.

Cafodd plismyn eu galw tua 08:10 fore Sadwrn ar ôl adroddiadau bod corff wedi’i weld yn Afon Dyfrdwy.

Yn ôl yr Arolygydd Andy Kirkham mae plismyn yn parhau i geisio adnabod y ddynes.

Ychwanegodd nad oeddent yn gwybod eto achos y farwolaeth ond nad oes yna amgylchiadau amheus.

“Rydym yn ymwybodol bod y digwyddiad hwn wedi achosi rywfaint o aflonyddwch i drigolion ac ymwelwyr wrth i ŵyl fwyd gael ei chynnal yn y dref ddydd Sadwrn, a hoffem ddiolch i bawb – gan gynnwys busnesau lleol – am eu hamynedd wrth i ni ddelio â’r digwyddiad trasig hwn.

“Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu’r fenyw yn ystod yr amser anodd hwn,” meddai.


BBC News

Views: 2

See also  Concro Everest a choncro'r Gymraeg

Check Also

Galwadau i baratoi’n well ar gyfer y risg o danau mawr

Mae angen ceisio rheoli tir yn well er mwyn lleihau’r risg o danau yn lledaenu, …

‘A wes whant dod i Lantwd?’: Cyflwyniad i ardal y ‘Steddfod

Yn bwysicaf na dim arall – ein tafodiaith penigamp ni! Ewch i gaffis bach lleol, …

Holiday to Greece left Anglesey woman in coma after tick bite

A woman has been left with memory loss and seizures and has to take 18 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime