google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Cofio’n annwyl’ am un o gantorion Hogia Llandegai

Yn 91 oed bu farw Roy Astley o Lanfairfechan – un o gantorion Hogia Llandegai.

Wrth ei gofio dywedodd Neville Hughes – yr unig aelod sydd bellach ar ôl – ei fod yn “chwith meddwl ei fod wedi’n gadael a mai dim ond fi sydd ar ôl wedi i Ron a Now ein gadael ryw ugain mlynedd yn ôl”.

Tyfodd yr Hogia allan o wythawd Criw Sgiffl Llandegai.

Triawd oeddent i ddechrau ac ar ddiwedd eu cyfnod hefyd – sef Neville [Nev] Hughes (gitâr a llais, cyflwynydd), Ronald Wyn [Ron] Williams (prif leisydd) ac Owen Glyn [Now] Jones (organ geg a llais).

Ymunodd Roy Astley (gitâr a llais) yn ddiweddarach cyn i’r pedwarawd ddechrau recordio caneuon o dan yr enw Hogia Llandegai yn ystod y 1960au.

“Roedd ganddo lais ardderchog – fo oedd y tenor top a finna yr un gwaelod,” meddai Neville Hughes wrth siarad â Cymru Fyw.

“Roedd o’n dynnwr coes, yn ddyn hwyliog iawn ac yn aelod anhepgor ohonom.

“Fe gawson ni sawl noson ragorol ac roedd Roy yn rhan o’r Hogia pan oeddan ni yn ein hanterth a phan ‘nathon ni recordio ein EP cyntaf sef ‘Trên Bach yr Wyddfa’.

“Mi ddaeth yna ragor o recordiau wedyn a Roy yn rhan o bob un – yn eu plith ‘Anti Henrietta o Chicago’, ‘Mynd i’r Fan a’r Fan’, Mi Ganaf Gân’ a ‘Mae Pawb yn Chwarae Gitâr’.

“Fe gawson ni hwyl rhyfeddol – perfformio yn y gogledd i ddechrau ac yna fe wnaeth noson Pinaclau’r Urdd ym Mhontrhydfendigaid agor y drws i ni berfformio yn y de – roedd o’n gyfnod arbennig iawn a pherfformwyr fel Tony ac Aloma ac eraill yn cadw cwmni i ni mewn cyngherddau.

“Bu plant Roy yn canu gyda ni hefyd mewn cyngherddau – Glenda a David.”


BBC News

Advertisements

See also  Traps to be set for predator wasp that targets bees

Check Also

Newport County: Hayden Mullins insists pitch not behind home form

Newport are unbeaten at Rodney Parade in League Two this season, and will look to …

Ex-ambulance call handler saves collapsed man's life after spotting his dogs

Rachel Green realised something was wrong when she spotted two lone dogs as she drove …

‘Rhaid hyrwyddo Sycharth, llys Owain Glyndŵr, yn well’ – gweinidog

Mae’r gweinidog diwylliant wedi gofyn i swyddogion ystyried sut y gellir hyrwyddo Sycharth, llys hynafol …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime