google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cofio Dorothy Jones, athrawes a gafodd ‘ddylanwad pellgyrhaeddol’

Advertisements

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu bod Dorothy Jones “wrth ei bodd yng nghwmni plant o bob cefndir a gallu, a dotiai ar eu llwyddiant”.

Yn ei gwaith fel athrawes yng Nglan Clwyd bu’n creu sioeau cerdd yr ysgol ac “uchafbwynt blynyddol iddi oedd gwasanaeth Nadolig y Gadeirlan a hithau wedi cyfansoddi rhai o’r carolau gyda’r diweddar Gilmour Griffiths”.

“Mae’n sicr iddi hyfforddi cenedlaethau o blant ac ieuenctid, credai mewn meithrin talent a throsglwyddo’r un cariad at iaith i’r to iau.

“Bu eisteddfodau bach a mawr yn rhan ganolog o’i bywyd.”

Ychwanegodd: “Fe’i hurddwyd i’r Orsedd yn 2005, derbyniodd Dlws Coffa Eurig Wyn, Y Faner Newydd ac yna Medal Syr T H Parry-Williams yn 2013, oedd meddai hi, yn ‘fraint fwya’ mywyd’.

“Doedd hi ddim ofn mynegi ei barn ac roedd gwarchod y ‘Pethe’ o’r pwys mwyaf iddi.

“Byddai’n llawn egni ac wrth ei bodd allan. Yn ddyddiol – hyd yn oed yn ei 80au byddai’n cerdded i’r topie a rhedeg i lawr nôl ‘i brofi i mi fy hun mod i’n dal i fedru!'”


BBC News

See also  Dr Alex shares five ways that running helps your brain

Check Also

Gweilch y Pysgod wedi magu cywion am y tro cyntaf ar Ynys Môn

Fel arfer mae Gweilch yn mudo i orllewin Affrica, dros 3,000 o filltiroedd i ffwrdd, …

Bu farw mam yn ei 40au o ganser yn ymwneud ag asbestos – ai ei hysgol oedd ar fai?

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod diogelwch disgyblion a staff yn “hollbwysig”. “Rydym yn parhau i gefnogi …

Ceredigion woman reliant on bottled water as well dries up due to drought

Genista Tanner never imagined she would be left without running water in the home she …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime