google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 5 2026

Cofio buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans

Awgryma Peter mai’r hyn a lwyddodd Gwynfor Evans i’w wneud, gan gyfeirio at y lyfr Rhys Evans, Gwynfor: Rhag Pob Brad, oedd denu gwladgarwyr yn ogystal â chenedlaetholwyr i bleidleisio drosto.

Dywedodd: “Dyna beth oedd Gwynfor wedi’i ‘neud yn Sir Gaerfyrddin oedd cael cenhedlaeth o wladgarwyr gwleidyddol, nid cenedlaetholwyr.

“Chi’n gwybod, os chi’n genedlaetholwr mewn ffordd mae’n rhaid eich bod chi’n aelod o’r blaid neu chi’n aelod o ryw fudiad Cymreig neu rywbeth i fod yn genedlaetholwr.

“Ond beth oedd e wedi’i ‘neud oedd cael y bobl i ymdeimlo, achos eu bod yn wladgarwyr.”

Creda Peter fod rhywbeth tebyg wedi digwydd gyda Phlaid Cymru’n gynharach eleni yn Etholiad y Senedd ym mis Mai.

“O’n i’n meddwl am yr holl bobl ydw i’n eu cofio sydd ‘di gweithio’u guts allan dros genedlaetholdeb a dros y Blaid – pobl fel DJ Williams, Cassie Davies, chi’n gwybod, mae’r rhestr mor hir.

“Dw i’n freintiedig iawn ‘mod i’n cofio’r bobl ‘ny a chofio’r ardal ‘na. A nawr, dw i’n gweld be’ sy’n digwydd nawr ac yn meddwl am y rheiny.

“Ac am Gwynfor ei hunan, wrth gwrs. Fan ‘na oedd y dechrau, y creu, y torri trwodd, fel sydd wedi digwydd eto 60 mlynedd yn ddiweddarach.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Warren Gatland: Should he stay or go? - Pundits react

Check Also

Ex-Top Gear’s Richard Hammond to ‘find a way’ of sharing Abergavenny mansion with bats

The bat survey commissioned ahead of the proposed building work found “bat activity levels in …

Swansea City v Wrexham: Eyes on big prize as Welsh duo collide

Most observers would regard Cardiff as outsiders to feature in the promotion race next spring …

Dathlu 80 mlynedd o gefnogi Wrecsam

Elwyn Roberts o’r Wyddgrug sy’n hel atgofion o fynd i’r Cae Ras dros y degawdau. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime