google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Chwilio am fachgen coll oddi ar arfordir Sir Benfro yn dod i ben

Ni fydd y gwaith o chwilio am fachgen a aeth i drafferthion oddi ar arfordir Sir Benfro dros y penwythnos yn ailddechrau ddydd Mawrth.

Fe gafodd Gwylwyr y Glannau wybod am tua 15:30 brynhawn Sul 30 Awst bod tri pherson “mewn trafferthion yn y dŵr ac angen cymorth” yn ardal Marloes, ger Aberdaugleddau.

Fe lwyddodd dau o’r rheiny i achub eu hunain, ond roedd un yn dal ar goll.

Fe dreuliodd criwiau achub 22 awr ar draws dau ddiwrnod yn chwilio am y nofiwr ifanc – bachgen 14 oed, yn ôl yr RNLI.

Ond mae Heddlu Dyfed-Powys a Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau na fydd y gwaith chwilio yn ailddechrau heb i “wybodaeth ychwanegol” ddod i’r amlwg.

Daeth sawl criw ynghyd er mwyn chwilio am y bachgen gan gynnwys criwiau Gwylwyr y Glannau o Aberllydan, Dale a Thyddewi ynghyd â chriwiau bad achub o Angle, Aber-bach, Dinbych-y-pysgod a Thyddewi, hofrennydd, tîm dronau a’r gwasanaeth ambiwlans.

Daeth y chwilio i ben yn swyddogol am 19:30 nos Lun ar ôl i “ddim byd gael ei ganfod a dim gwybodaeth newydd” meddai’r RNLI.

Ychwanegodd yr RNLI mewn datganiad bod eu “meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r nofiwr yn ystod y cyfnod anodd yma”.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Teaching assistants' pay 'shocking' despite complex pupil needs

Check Also

Welsh government to hold independent Wales Covid-19 review

The Welsh government is to push on with plans for an independent Wales Covid-19 review. …

Reform call for ban on Muslim face coverings in Senedd debate

Sioned Williams, deputy first minister, said the debate was a “shameful” end to a “sad …

County Down hiker fell 100ft off Yr Wyddfa in Gwynedd and died

An experienced hiker died after losing his footing and falling 100ft from a ridge on …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime