google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Chwech yn ysbyty ar ôl gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf

Mae chwe pherson wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad difrifol ger Trewiliam yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar ffordd osgoi’r A4119 am tua 11:28 fore Llun yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng sawl cerbyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon chwe ambiwlans a sawl cerbyd argyfwng i’r digwyddiad.

Cafodd yr Ambiwlans Awyr eu galw i’r digwyddiad yn ogystal.

Ychwanegodd y llefarydd fod chwech o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty er mwyn derbyn rhagor o driniaeth.

Mae’r heddlu wedi cau’r ffordd i’r ddau gyfeiriad rhwng Tonypandy a Threwiliam gyda swyddogion yn rhybuddio y gallai fod ar gau am beth amser.


BBC News

Advertisements

See also  Skomer Island puffin numbers hit record high despite global fall

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime