google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Chwe Gwlad: Cymru’n curo’r Eidal

Roedd dechrau addawol i Gymru a bu bron iddyn nhw sgorio cais yn y deg munud cyntaf ond fe aeth y bêl ymlaen fodfeddi’n brin o’r llinell gais.

Roedd cyfle arall i Gymru ychydig funudau yn ddiweddarach wrth i Carys Phillips redeg lawr y cae. Ond fe aeth y bêl ymlaen eto, ar ôl i Georgia Evans a Lleucu George gamddeall ei gilydd.

Roedd hwb i obeithion Cymru wrth i Carys Phillips sgorio cais cynta’r gêm, cyn i’r Eidal daro yn ôl lai na munud yn ddiweddarach wrth i Vittoria Ostuni Minuzzi sgorio cais. Cymru 5-7 Yr Eidal.

Gyda chamgymeriadau gan chwaraewyr y ddau dîm, roedd cyfnodau rhwystredig i Gymru a’r Eidal.

Gyda chic arbennig gan Lleucu George lawr y cae, roedd Cymru bum medr o’r llinell gais. Roedd cyfle perffaith i Gymru cyn iddyn nhw gael eu gosbi am beidio gyrru’n syth mewn sgrym.

Ym munudau ola’r hanner cyntaf, fe gafodd yr Eidal gic cosb ar ôl i Georgia Evans gael ei chosbi ac fe lwyddodd Beatrice Rigoni i anelu’r bêl rhwng y pyst.

Y sgôr ar yr hanner oedd Cymru 5-10 Yr Eidal.


Source link

Views: 1

See also  Yousef Salech: Cardiff City set to sign Sirius striker

Check Also

Glan Clwyd hospital nurse ‘panicked’ after finding man unresponsive, inquest hears

A nurse who failed to raise the alarm when he found a patient cold and …

Teyrngedau i Emyr Owen – ‘gweithiwr caled cefn gwlad a gŵr busnes naturiol’

Dywedodd Geraint ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn rhannu’r newyddion am ei dad “gyda …

Glamorgan: Keeper Chris Cooke to retire at end of season

Born in Johannesburg, Cooke played briefly for Western Province in South Africa before coming to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Yk 11 sarm solution 10mg/ml – 50ml.