google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Chwe Gwlad: Cymru’n colli’n drwm yn erbyn Ffrainc

Advertisements

Dechreuodd y ffefrynnau’n gryf ac fe sgorion nhw eu cais cyntaf o fewn munud a hanner. Ar ôl rhedeg o’u hanner eu hun y canolwr Émilien Gailleton orffennodd y symudiad.

Daeth yr ail gais i Ffrainc yn weddol gloi gyda’r maswr Matthieu Jalibert yn cicio i’r gornel a’r asgellwr Louise Bielle-Biarrey yn aros amdani. Fe fethodd y cefnwr, Thomas Ramos y trosiad ac felly roedd y sgôr yn 12-0 ar ôl 12 munud.

Dwy funud aeth heibio yn unig cyn y cais nesaf i’r Ffrancwyr – a’r canolwr ifanc, Fabien Brau-Boirie, sgoriodd ac yntau’n cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf.

Fe gafodd Cymru gymal mwy cadarnhaol hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf gyda Rhys Carre yn cario a chroesi er mwyn rhoi Cymru ar y sgorfwrdd.

Fe giciodd Dan Edwards y trosiad i’w gwneud hi’n 19-7.

Asgellwr Ffrainc, Théo Attissogbe, darodd yr ergyd nesaf a hynny ar ôl hanner awr ond fe gafodd y cais ei wrthod gan ei fod yn camsefyll.

Gyda Chymru dan bwysau am ran fwyaf o’r hanner fe ddaeth camgymeriad arall ar ddiwedd yr hanner – a arweiniodd at y maswr Jalibert yn croesi er mwyn cadarnhau’r pwynt bonws.

Y sgôr ar yr hanner felly’n 26-7 i Ffrainc.


BBC News

See also  Women's World Cup qualifying: Rhian Wilkinson right person to drive Wales forward - Mia Ross

Check Also

Cymru Premier: Third win on spin for Connah’s Quay

Connah’s Quay Nomads enjoyed their third successive win in Cymru Premier by beating new boys …

Torfaen becomes global hotspot for carbon emissions after wildfires

Melanie Simmonds, head of Save the Children Wales, said: “In Wales and across the world, …

Cofrestru yn yr Eisteddfod ‘a rŵan ella bo’ fi’n rhoi cyfle arall i rywun fyw’

I Elin, mae’r ffaith mai cofrestru yn yr Eisteddfod, ar fympwy, oedd dechrau’r daith yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime