google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cedol Dafydd: Yr hogyn o Bentir sy’n rhwyfo at fedalau aur

B0242d30 42da 11f0 90bf b10bb5ee7272.jpg

Dywed y rhwyfwr 24 oed mai troi yn rhwyfwr proffesiynol oedd “y penderfyniad hawsa'” iddo erioed ei wneud.

“Dwi wastad wedi bod isio bod yn athletwr proffesiynol hyd yn oed pan o’n i’n rhedag, nofio a hyd yn oed pan o’n i’n ifancach yn ‘neud rygbi tag efo Clwb Rygbi Bangor neu’n chwarae pêl-droed i Glwb Penrhosgarnedd. Wedyn gweld Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain a meddwl dyna dwi isio ‘neud wan, dwi isio bod yn olympian a dyna fo.”

Yn ôl Cedol gwaith caled a ymarfer sydd wedi galluogi iddo gyrraedd ei nod.

Meddai: “Dwi wedi gweithio mor galad i gyrradd lle lle dwi’n gallu ffocysu mond ar y rhwyfo a mae o ‘di talu ‘nôl mewn ffordd well nag o’n i’n gweld yn dod.

“O ran trefn ymarfer dwi’n cychwyn am 7 a gorffen am 4 chwe gwaith yr wythnos tra ‘dan ni ym Mhrydain ond tra ‘dan ni ffwrdd yn rwla fel Portiwgal a Sbaen mewn camps ymarfar rydan ni’n ymarfar fwy intense.

“Hyd yn oed pan o’n i’n Ysgol Garnedd a Tryfan o’n i’n nofio dwywaith y diwrnod, cyn yr ysgol ac ar ôl felly i ddweud y gwir mae’n eitha’ hawdd rŵan. Dwi’m yn gorfod poeni am ysgol a brifysgol, dim ond ymarfer llawn amsar.”


BBC News

Advertisements

See also  Ieuan Davies: Welsh lightweight's stunning submission earns Cage Warriors title

Check Also

Off Campus star collaboration ‘gave me chills’, says Babydoll singer

The singer behind the TikTok viral hit Babydoll says collaborating with an Off Campus star …

Flintshire: Nurse who stole £750,000 from vulnerable 99-year-old struck off

A nurse who stole £750,000 from a vulnerable 99-year-old and spent the money on cosmetic …

Carcharu cyn-dditectif am rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda ffrind

Mae cyn-dditectif wedi cael ei charcharu am rannu gwybodaeth gyfrinachol yr heddlu gyda ffrind. Fe …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime