google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cau lôn ar Bont y Borth am bum diwrnod oherwydd gwaith adfer

Advertisements

Fe fydd mesuriadau traffig mewn lle unwaith yn rhagor ar Bont y Borth cyn diwedd yr wythnos oherwydd gwaith adfer, medd Llywodraeth Cymru.

Fe fydd “gwaith rhagarweiniol” yn dechrau ddydd Iau 27 Tachwedd “i hwyluso’r atgyweiriad parhaol i’r broblem ddiweddar gyda thrawstiau croes” y bont grog.

Mae hynny’n dilyn “cyngor brys” gan beirianwyr ym mis Hydref wedi i ymchwiliad amlygu bod angen ailosod rhai o’r bolltau ar drawstiau o dan y bont”.

Mae disgwyl i’r gwaith bara am bum diwrnod, rhwng dydd Iau 27 Tachwedd a dydd Mercher 3 Rhagfyr, ar ddyddiau wythnos yn unig.

Yn ystod y dyddiau dan sylw fe fydd un lôn ar gau rhwng 07:30 a 17:00.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yna wybodaeth bellach ynghylch amserlenni’r gwaith adfer parhaol unwaith y bydd y rheiny wedi cael eu cadarnhau gan y cwmni sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r bont, UK Highways A55 Limited.

Yn eu datganiad mae’r llywodraeth hefyd yn diolch i ddefnyddwyr y bont “am eich amynedd wrth i’r gwaith hanfodol hwn gael ei wneud”.


BBC News

Views: 1

See also  Cwis: Sarn Helen - BBC Cymru Fyw

Check Also

Cardiff Huskies celebrate 30 years of life on ice

As the sport grew in the UK in the 1990s, Cardiff Huskies saw various players …

Surgeon removes wrong part of bowel in one of 10 'never events'

It was one of 10 “never events” in the past 12 months in the NHS …

'Ystafell Athrawon' yn gyfle i rwydweithio ar faes yr Eisteddfod

Mae Ystafell Athrawon newydd wedi cael ei lansio ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. BBC …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime