google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Casnewydd i gynnal Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf yn 2027

Fel arfer, pwyllgorau neu ymgyrchwyr lleol ac nid cynghorau sir sydd yn gofyn i Eisteddfod yr Urdd ymweld â’u hardaloedd.

Mae’r Urdd wedi croesawu ymdrechion Cyngor Casnewydd.

“Rydym wrth ein bodd o glywed bod aelodau cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno’n ffurfiol i wahodd Eisteddfod yr Urdd i’r rhanbarth yn 2027,” meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r awdurdod lleol am ddangos cymaint o gefnogaeth i’r mudiad a’r ŵyl ieuenctid fel ei gilydd.”

Mae’r Cynghorydd Emma Stowell-Corten, yr aelod cabinet dros gyfathrebu a diwylliant, yn dweud ei bod hi’n awyddus iawn i weld yr ŵyl yn dod i Gasnewydd.

“Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl yn y dathliadau, o ganol y ddinas ac ar draws Casnewydd, fel bod cymaint o bobl â phosibl yn profi bwrlwm digwyddiad diwylliannol mawr,” meddai.

Bydd cyfarfod cyhoeddus ddydd Iau i drafod lleoliadau posib ac i benodi’r pwyllgor gweithredol lleol a’r cadeirydd cyn dechrau’r gwaith trefnu ar gyfer 2027.


Source link

Views: 1

See also  Rhannu fideos am golli gwallt yn cyrraedd miliynau o bobl

Check Also

Attenborough superfan, 6, draws 100th animal for broadcaster's birthday

Despite the 94-year age gap, six-year-old Max Evans-Browning calls Sir David his “favourite person”. BBC …

Drivers 'chucking stuff out of windows' blamed as litter on 99% of main roads

Sweet wrappers, drinks containers and fast-food packaging were the most common items, campaigners said. BBC …

Vapes sold to children, election time and trio deny grooming

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.