google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Caryl Parry Jones yn cofio yr ‘arallfydol’ Dewi Pws

Mae Caryl Parry Jones wedi rhoi teyrnged i Dewi ‘Pws’ Morris, ei ffrind “chwedlonol” am hanner can mlynedd.

Daeth cadarnhad fore Iau fod y diddanwr, actor, cerddor, cyflwynydd a’r tynnwr coes wedi marw yn 76 oed ar ôl cyfnod o salwch byr.

Mae ei ffrind a’i gydweithiwr am 50 mlynedd, Caryl Parry Jones, wedi rhannu ei hatgofion o’r dyn oedd yn “ffrind i bawb”.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Caryl ei bod yn “hollol starstruck” pan welodd hi Dewi am y tro cyntaf yn 12 neu 13 oed yn perfformio gyda’r Tebot Piws.

Roedd y band yn “ffrwydro ar y llwyfan a’n gwneud y pethau gwirion ‘ma – props a just stopio cân ar ei hanner… pan weles i o am y tro cyntaf oedd o’ n ormod i fi, o’n i methu siarad,” meddai.


Source link

Advertisements

See also  Protestors demand for more control in housing market

Check Also

Moment paedophile arrested after sexually assaulting child in south Wales

This is the moment a fleeing paedophile carrying a knife who sexually assaulted a child …

Pembrokeshire driver in A40 crash was over legal limit – inquest

A drink-driver who hit a road sign and flipped his car killed himself and his …

Iawn i ddefnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd – Llywydd

Gellir defnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd, mae Llywydd y Senedd wedi penderfynu. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime