google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu mab cyn-seren bêl-droed am ymosod ar ddynes 67 oed

F400e050 1ba4 11f0 82aa a13f8272cbc5.jpg

Mae mab cyn-chwaraewr i dîm pêl-droed Cymru wedi cael ei garcharu am daro dynes 33 o weithiau – gan achosi anaf difrifol i’w phen.

Fe wnaeth Joni Hartson, 22, mab cyn-seren Arsenal, Celtic a West Ham John Hartson, ymosod ar y cyn-dditectif Dawn Lloyd ar 18 Hydref y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Hartson wedi dweud ei fod yn difaru peidio ei lladd hi yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd ei ddedfrydu ddydd Iau i ddwy flynedd a chwe mis o garchar am yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan y barnwr fel “ymosodiad bwriadol oedd wedi ei gynllunio”.

Roedd Hartson, 22, a Ms Lloyd, 67, yn gleifion ar ward ysbyty pan wnaeth o ei thargedu hi oherwydd ei hoedran a’i denu i’r ardd gefn.

Dywedodd yr erlyniad fod Ms Lloyd wedi cael ei tharo “tua 33 o weithiau” gan y diffynnydd, a bod hi wedi “gwneud dim ond codi ei breichiau i amddiffyn ei hun”.

Clywodd y llys fod Hartson, sydd yn awtistig, yn glaf ar ward Bryngofal yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.

Doedd Hartson ddim yn breswylydd parhaol pan ddigwyddodd yr ymosodiad, ond roedd yn yr ysbyty gan ei fod wedi profi teimladau hunanladdol.


BBC News

Advertisements

See also  Tair cenhedlaeth yn hel calennig yn Nantmor

Check Also

‘Rhaid i gwmnïau lleol gael cyfran deg o gyfleoedd niwclear Môn’

Mae’r prentisiaid ei hunain hefyd yn gweld potensial mewn prosiect o fewn eu milltir sgwar. …

Quiz: Name the 12 Wales women’s players given debuts by Sean Lynn

Wales’ WXV Global Series squad to face Japan in Tokyo on Saturday, 24 October, and …

Welsh government to hold independent Wales Covid-19 review

The Welsh government is to push on with plans for an independent Wales Covid-19 review. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime