google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu dyn o Sir Gâr am dreisio dau o blant

C5488f60 2cf2 11f0 8693 23f31ee08547.jpg

Mae dyn o Sir Gâr wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd am dreisio dau o blant.

Fe wnaeth Lloyd Davies, o Gaecoed, Llandybie – ger Rhydaman – dreisio a cham-drin yn rhywiol ddau o blant – yr ieuengaf yn chwech oed ar adeg y drosedd.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, cafwyd Davies yn euog o dri chyhuddiad o dreisio plentyn dan 13 oed, dau gyhuddiad o achosi neu gymell plentyn o dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol, ymosodiad rhywiol ar blentyn o dan 13 oed a gwneud delwedd anweddus categori A o blentyn.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Carl Pocock o Heddlu Dyfed-Powys: “Hoffwn ddiolch o galon i’r ddau ddioddefwr yn yr achos hwn sydd wedi bod yn hynod ddewr wrth ddod ymlaen at yr heddlu a siarad am eu trawma fel plant ifanc.

“Yn sgil eu dewrder, bydd Lloyd Davies nawr yn treulio cyfnod sylweddol yn y carchar, gan wneud ein cymunedau’n fwy diogel.

“Dwi’n gobeithio ar ôl y ddedfryd y gallant nawr geisio symud ymlaen â’u bywydau.

“Mae’r achos hwn yn ein hatgoffa y gellir sicrhau cyfiawnder flynyddoedd ar ôl unrhyw gamdriniaeth.

“Dwi’n gobeithio bod y canlyniad hwn yn dangos nad yw byth yn rhy hwyr i godi llais.”


BBC News

Advertisements

See also  Risg i gleifion yn bosib heb wella perfformiad y GIG 'ar frys'

Check Also

Moment sailor rescued from yacht as it sinks in Bristol Channel

Footage shows the moment a lone sailor was rescued just before his yacht sank in …

Llafur yn galw am ffordd liniaru’r M4 saith mlynedd ar ôl canslo’r cynllun

Mewn dadl ar 29 Medi, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, nad oedd modd …

Pwy yw hoff athro Maths Carol Vorderman sy’n genedlaetholwr ‘tanbaid’?

“Oedd Carol yn hogan hollol eithriadol. O’n i ddim yn gwybod digon o fathemateg i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime