google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu dau o Gaerdydd am gynllunio troseddau rhyw yn erbyn plant

Advertisements
Tracy Turner yn cael ei thywys i'r llysFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tracy Turner yn gynorthwyydd theatr yn Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae dau berson o Gaerdydd – un ohonynt yn weithiwr iechyd – wedi eu carcharu am gynllunio troseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafodd Tracy Turner, 52 oed o ardal y Rhath – sy’n gynorthwyydd theatr yn Ysbyty Athrofaol Cymru – ddedfryd o 12 mlynedd o garchar gyda dwy flynedd arall ar drwydded.

Doedd yna ddim cysylltiad rhwng y troseddau a’i swydd.

Cafodd Stuart Compton, 46 oed o ardal Cathays, ddedfryd oes o garchar, ond bydd modd iddo wneud cais am barôl ar ôl saith mlynedd.

Wrth ddedfrydu dywedodd y barnwr mai “nid ffantasi” oedd eu cynllwynau.

Stuart ComptonFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Stuart Compton yn euog i chwe chyhuddiad o drefnu i gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant

Clywodd y gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful fod y ddau wedi cyfnewid dros 100,000 o negeseuon ar Whatsapp lle’r oedden nhw’n trafod cyflawni gweithredoedd rhyw ar blant.

Roedd yna dri o blant ganddyn nhw dan sylw, dau ohonyn nhw’n wyth oed a’r llall yn 12.

Clywodd y llys fod Compton a Turner wedi trafod lleoliadau posibl ar gyfer ymosodiadau rhyw ciaidd, ac iddyn nhw ddynodi sied wag ger lle’r oedden nhw’n byw fel lleoliad addas.

Buon nhw’n trafod sut i sicrhau na fyddai plentyn yn sgrechian yn ystod ymosodiad, ac yn trafod y canlyniadau posib gan gynnwys y posibilrwydd y byddai plentyn yn marw.

Clywodd y llys i Compton ddweud y byddai’n cymryd cyfrifoldeb pe bai hynny’n digwydd.

‘Obesiwn yna’n fwriad pendant’

Er na wnaethon nhw ymosod yn gorfforol ar unrhyw blentyn roedd y bwriad yn glir, meddai Matthew Cobb ar ran yr erlyniad.

“Roedd ffantasi wedi troi’n obsesiwn ac yna’n fwriad pendant”, meddai.

Roedd y ddau wedi pledio’n euog i chwe chyhuddiad o drefnu i gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant mewn gwrandawiad blaenorol.

Fe blediodd Tracy Turner hefyd yn euog i ddau gyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blentyn.

Wrth ddedfrydu fe ddywedodd y barnwr Tracey Lloyd Clarke: “Nid ffantasi oedd eich trafodaethau.

“Roeddech chi’ch dau yn bwriadu gwneud yr hyn roeddech chi wedi ei drafod.”


BBC News

Views: 0

See also  Zan Vipotnik: Swansea City braced for interest, says Vitor Matos

Check Also

Christian Fuchs: Newport County chairman Huw Jenkins shocked by manager’s exit

Fuchs’ departure means Jenkins is looking for a new manager for the third successive summer, …

Murci fashion side hustle from nan’s house turns into £10m business

Olivia always loved fashion, but never imagined a side hustle from her grandmother’s house would …

Lamb kebabs made of goat compared to horsemeat in lasagne scandal

Kismet Kebabs remains one of the UK’s largest kebab meat suppliers. In 2024, the company …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime